Kirklees

bwrdeistref fetropolitan yng Ngorllewin Swydd Efrog

Bwrdeistref fetropolitan yng Ngorllewin Swydd Efrog, Swydd Efrog a'r Humber, Lloegr, yw Kirklees.

Kirklees
Mathbwrdeistref fetropolitan Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolGorllewin Swydd Efrog
PrifddinasHuddersfield Edit this on Wikidata
Poblogaeth438,727 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1974 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iBesançon, Bergkamen Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGorllewin Swydd Efrog
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd408.5516 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.593°N 1.801°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE08000034 Edit this on Wikidata
GB-KIR Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholcouncil of Kirklees Metropolitan Borough Council Edit this on Wikidata
Map

Mae gan y fwrdeistref arwynebedd o 409 km², gyda 439,787 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio Calderdale a Dinas Bradford i'r gogledd-orllewin, Dinas Leeds i'r gogledd-ddwyrain, Dinas Wakefield i'r dwyrain, De Swydd Efrog i'r de-ddwyrain, Swydd Derby i'r de, a Manceinion Fwyaf i'r gorllewin.

Kirklees yng Ngorllewin Swydd Efrog

Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Yn wreiddiol daeth o dan reolaeth cyngor sir fetropolitan Gorllewin Swydd Efrog, ond ym 1986, fel yr holl fwrdeistrefi metropolitan eraill yn Lloegr, daeth yn awdurdod unedol i bob pwrpas.

Rhennir y fwrdeistref yn bum plwyf sifil, gydag ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys tref Huddersfield, lle mae ei phencadlys. Mae aneddiadau eraill ynddi'n cynnwys trefi Batley, Cleckheaton, Dewsbury, Heckmondwike, Holmfirth, Meltham a Mirfield.

Enwir y fwrdeistref ar ôl Priordy Kirklees, sydd yng nghanol yr ardal.

Cyfeiriadau golygu

  1. City Population; adalwyd 1 Awst 2020