Nofelydd Swedaidd yw Kitty Sewell.

Magwyd Sewell ar fferm wledig yn Sweden. Pen oedd yn 13 oed, symudodd ei theulu i'r Ynysoedd Dedwydd. Mynychodd ysgol Almaenig ar yr ynys, felly dysgodd Almaeneg a Sbaeneg yn gyflym.[1]

Yn fuan wedyn symudodd ei rhieni i Ganada, a dilynodd hwy yno pan oedd yn 18 gan gymryd dinasyddiaedd Canadaidd. Priododd a chafodd blant Elise a Erik, cyn ysgaru. Roedd ganddi gymhwyster cyfraith felly cafodd Sêl i ddod yn Notari Cyhoeddus ar gyfer cymuned fechan is-Arctig, a oedd i ddod yn osodiad ei nofel Ice Trap yn ddiweddarach.[1]

Cyfarfodd â meddyg Seisnig, John, a priodasont cyn symud i Loegr ac yna Cymru. Ail-hyfforddod Sewell fel seicotherapydd gan weithio dro sy GIG ac ym meddygaeth breifat. Dechreuodd ei diddordeb mewn ysgrifennu tua'r adeg hwn, pan ysgrifennodd golofn ar gyfer cynghrair papur newydd am iechyd meddylion, a bywgraffiad person trawsrywiol. Wedi 12 mlynedd, roedd yn ysu am newid unwaith eto, a dechreuodd gwrs Cerfluniaeth Cymhwysol yr un adeg ag astudio gradd Meistr rhan amser mewn ysgrifennu creadigol. Gweithiodd fel cerflunydd am gyfnod, gan ennill dau wobr am ei cherfluniau cerrig, tan i Ice Trap gael ei gyhoeddi. Symudodd gyda'i gŵr i fyw ar fferm ffrwythau ym mynyddoedd Granada, Sbaen lle mae'n parhau i ysgrifennu.[1]

Cyfieithwyd Ice Trap i 14 iaith, enwyd ar restrau byr gwobrau CWA New Blood Dagger a Llyfr y Flwyddyn ac enillodd wobr "Dewis y Bobl" BBC Radio Wales.

Gweithiau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2  Biography. KitKitty SewellKitty Sewellty Sewell. Adalwyd ar 21 Chwefror 2010.

Dolenni allanol golygu