Kizzy Crawford

Cantores a cyfansoddwr o Gymraes

Cantores a chyfansoddwraig werin a blws Bajan-Gymreig yw Kizzy Crawford (ganwyd 25 Ebrill 1996) sydd yn canu yn Gymraeg a Saesneg. Yn ôl Kizzy, "Ei huchelgais fel artist du Cymreig yw gwneud ei marc trwy gyfuno 'soul'/jazz dwyieithog".[1]

Kizzy Crawford
Ganwyd25 Ebrill 1996 Edit this on Wikidata
Rhydychen Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcanwr Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.kizzymerielcrawford.com Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

 
Kizzy yn Ionawr 2016.

Ganwyd Kizzy yn Rhydychen ond pan ysgarodd ei rhieni yn 1999, daeth ei mam ynghyd a'i rhieni hi i fyw i Aberaeron. Mae ei mam yn Saesnes o dde-ddwyrain Lloegr ond treuliodd gwyliau ei phlentyndod gyda thadcu a mamgu yn Diserth, Powys ac roedd wastad eisiau magu ei phlant yng Nghymru.[2]

Mae teulu ei thad yn hannu o Barbados ac fe ymfudodd y teulu i Reading yn y 1950au. Roedd ei thadcu mewn band sgiffl. Mae ei threftadaeth Bajan a'i theulu estynedig yn Barbados yn bwysig iddi ac mae'n ystyried ei hun yn Gymraes.[3]

Cafodd ei haddysg yn Gymraeg ers oedd yn bedair oed. Yn ddiweddarach symudodd i fyw ym Merthyr Tudful.[4] Mynychodd Ysgol Gyfun Rhydywaun, Aberdâr. Hi yw'r hynaf o bump o blant. Mae ganddi chwaer, Eädyth, sydd hefyd yn gantores.[5]

Enillodd Kizzy y gystadleuaeth Canwr/Cyfansoddwr 'Arts Connect' Merthyr a Rhondda Cynon Taf ym 2012 a'r gystadleuaeth Brwydr Y Bandiau yn Eisteddfod Genedlaethol 2013.

Bywyd personol golygu

Fel Cymraes hil-gymysg, mae wedi profi rhagfarn a hiliaeth ers yn ifanc iawn. Yn yr ysgol gynradd, byddai yn cael ei phryfocio gan ddisgyblion eraill yn gwneud sylwadau am lliw ei chroen. Yn 2014 aeth i berfformio yn Nhalacharn ar gyfer BBC Radio Wales a daeth hen ddyn fyny ati hi a'i mam gan ddweud "I hope there aren’t any more like you where you come from".[3]

Ym mis Medi 2019, canodd Kizzy Calon Lân gyda'i chwaer, Eädyth, mewn rali YesCymru yn Merthyr Tudful, yn datgan ei chefnogaeth dros annibyniaeth i Gymru.[6]

Disgyddiaeth golygu

  • "The Starling" (Sonig, 2013)
  • "Temporary Zone" (See Monkey Do Monkey, 2013)
  • "Golden Brown" (2014)
  • "Shout Out / Yr Alwad" (2015)
  • "Pili Pala" (2015)
  • "Imago" (2015)
  • "Birdsong / Can Yr Adar" (Basho Records, 2018)
  • "The Way I Dream" (Freestyle Records, 2019)
  • "Rhydd" (Sain Records, 2021)

Cyfeiriadau golygu

  1. Bywgraffiad ar wefan ei hunan
  2. (Saesneg) Kizzy Crawford Music. Kizzy Crawford (13 Medi 2019). Adalwyd ar 3 Mehefin 2020.
  3. 3.0 3.1 Welsh singer racially abused at Laugharne festival , WalesOnline, 11 Mai 2014. Cyrchwyd ar 3 Mehefin 2020.
  4. (Saesneg) Q&A with Welsh Musician Kizzy Crawford. Show Racism The Red Card (7 Hydref 2013). Adalwyd ar 3 Mehefin 2020.
  5. Young singer Kizzy Crawford, from Merthyr Tydfil, wins Arts Connect Original Singer-Songwriter prize (en) , WalesOnline, 24 Ionawr 2013. Cyrchwyd ar 3 Mehefin 2020.
  6. "Sport and arts figures join independence rally" (yn Saesneg). 2019-09-07. Cyrchwyd 2019-09-11.

Dolenni allanol golygu