Lleolir ardal Kolyma (Rwseg: Колыма́) yng ngogledd-ddwyrain eithaf Rwsia yn nwyrain Siberia (yn ôl y diffiniad traddodiadol o'r rhanbarth hwnnw), sef yn rhanbarth Dwyrain Pell Rwsia. Gorwedd Môr Dwyrain Siberia a Chefnfor yr Arctig i'r gogledd a Môr Okhotsk i'r de. Enwir yr ardal anghysbell iawn hon ar ôl ei phrif afon, sef Afon Kolyma, a mynyddoedd Kolyma a fu heb eu troedio gan neb cyn 1926. Mewn termau gweinyddol, mae Kolyma yn cyfateb yn fras i ranbarthau Ocrwg Ymreolaethol Chukotka ac Oblast Magadan.

Kolyma
Mathrhanbarth Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAfon Kolyma Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolSiberia Edit this on Wikidata
SirOblast Magadan, Ocrwg Ymreolaethol Chukotka Edit this on Wikidata
GwladBaner Rwsia Rwsia
Cyfesurynnau69°N 162°E Edit this on Wikidata
Map
Map sy'n dangos lleoliad Kolyma
Tirwedd gogledd Kolyma

Mae rhan ogleddol yr ardal yn gorwedd o fewn Cylch yr Arctig, ac mae ganddi hinsawdd is-Arctig gyda gaeafau oer iawn sy'n para am hyd at hanner y flwyddyn. Gorchuddir rhannau mawr o'r ardal gan permafrost a thirwedd twndra, gyda thirwedd taiga yn y de.

Yr unig dref o unrhyw faint yw dinas Magadan, gyda phoblogaeth o 99,399; hon yw prif borthladd gogledd-ddwyrain Rwsia. Mae ganddi fflyd fawr o longau pysgota ac mae llongau torri rhew yn llwyddo i gadw'r porth ar agor drwy'r flwyddyn.

Yng nghyfnod Stalin, daeth yr ardal yn ddrwgenwog fel lleoliad rhai o'r gulags gwaethaf dan y drefn Stalinaidd.

Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.