Kristallnacht

Pogrom yn erbyn Iddewon ar draws y Reich Almaenaidd 9-10 Tachwedd 1938.

Pogrom gwrth-Iddewig oedd Kristallnacht (hefyd Reichspogromnacht) a ddigwyddodd ar 9 Tachwedd 1938 dan arweiniad y Natsïaid yn yr Almaen. Lladdwyd Iddewon, llosgwyd eu synagogau, ac ysbeiliwyd a dinistriwyd eu siopau. Ataliodd y llywodraeth Natsïaidd ryddhau'r heddlu a diffoddwyr tân i dewi'r cyrch treisiol torfol. Daeth y noson yn adnabyddus yn jargon Natsïaidd fel "noson grisial" (hynny yw, i ddynodi gwydr ffenestri siopau a thai Iddewon oedd wedi torri). Gelwir hefyd yn Novemberpogrome.[1] yn nodi dechrau'r Holocost, a hawliodd fywydau chwe miliwn o Iddewon yn Ewrop erbyn diwedd yr Ail Ryfel Byd.

Kristallnacht
Enghraifft o'r canlynolPogrom Edit this on Wikidata
DyddiadTachwedd 1938 Edit this on Wikidata
Lleoliadyr Almaen Natsïaidd Edit this on Wikidata
Yn cynnwysbook burning Edit this on Wikidata
Gwladwriaethyr Almaen Natsïaidd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cefndir golygu

 
Aelodau o SA Berlin yn gosod posteri yn galw am foicot o siopau Iddewig ar 1 Ebrill 1933

Cynhaliwyd Kristallnacht, ar y 9 a'r 10 Tachwedd 1938, ledled tiroedd y Drydedd Reich, gan ddinistrio symbolau Iddewig. Goresgynnwyd synagogau, busnesau a phreswylfeydd Iddewig a dinistriwyd eu heiddo. Cafodd miloedd eu harteithio, eu lladd neu eu halltudio i wersylloedd crynhoi. Y cyfiawnhad a ddefnyddiwyd gan y Natsïaid oedd llofruddiaeth Ernst vom Rath, diplomydd Almaenig ar y pryd ym Mharis, gan Herschel Grynszpan, Iddew o dras Pwyleg 17 oed oedd yn byw ym Mharis, ddeuddydd ynghynt. Roedd Grynszpan yn ymateb i benderfyniad y Natsïaid i alltudio ei deulu a miloedd o Iddewon eraill, o'r Almaen.[2]

Proses arweiniodd at Kristallnacht golygu

Gweithredwyd Kristallnacht gan aelodau'r cyhoedd a grwpiau para-filwrol Natsiaidd a hynny ar draws tiroedd newydd y Drydedd Reich a oedd erbyn Tachwedd 1938 yn cynnwys Awstria a'r Sudetenland yn yr hyn oedd Tsiecoslofacia nes y flwyddyn honno.[3]

Roedd erledigaeth y Natsïaid o’r gymuned Iddewig Almaenig eisoes wedi dechrau ym mis Ebrill 1933, gyda’r alwad ar ddinasyddion i foicotio sefydliadau sy’n eiddo i Iddewon. Yn ddiweddarach, cawsant eu gwahardd rhag mynychu sefydliadau cyhoeddus, gan gynnwys ysbytai.

 
Kristallnacht, siop Iddewig wedi ei difrodi ym Magdeburg

Yn hydref 1935, cyrhaeddodd erledigaeth Iddewon, a adnabyddir fel "gelynion yr Almaenwyr", uchafbwynt arall gyda'r hyn a elwir yn "Deddfwriaeth Hil Nuremberg". Er nad oedd yn ymddangos bod gweddill y byd yn cymryd yr hil-laddiad o ddifrif, gwelodd Hitler ei bolisi o lanhau ethnig yn cael ei gadarnhau.

Roedd cyfraith 15 Tachwedd 1935 wedi gwahardd priodasau ac yn condemnio cysylltiadau all-briodasol rhwng Iddewon a rhai nad ydynt yn Iddewon. Roedd yna hefyd waharddiad ar bobl nad oeddent yn Iddewon rhag gwneud gwaith tŷ i deuluoedd Iddewig ac ar Iddew yn chwifio baner y Natsïaid.

Ym 1938, cafodd plant Iddewig eu diarddel o ysgolion a phenderfynwyd diarddel yr holl siopau, diwydiannau a sefydliadau masnachol oedd yn eiddo i Iddewon. Ar 1 Ionawr 1939, roedd yr enw Israel ar gyfer dynion a Sarah ar gyfer merched yn orfodol i ddogfennau Iddewig.

Eiddigedd a thrachwant Natsiaid golygu

Cred rhai haneswyr bod y llywodraeth Natsïaidd wedi bod yn ystyried achos arfaethedig o drais yn erbyn yr Iddewon a'u bod yn aros am esgus priodol; mae tystiolaeth o'r cynllunio hwn yn dyddio'n ôl i 1937.[4] Mewn cyfweliad ym 1997, honnodd yr hanesydd Almaenig, Hans Mommsen, mai un o gymhellion mawr y pogrom oedd awydd Gauleiters yr NSDAP i atafaelu eiddo a busnesau Iddewig.[5]

Canlyniad golygu

Ffilm bersonol, Fienna 1938

Dros gyfnod o 48 awr distrywiwyd 267 synagog a thros 7,000 o siopau Iddewig gyda'r awdurdodau Almaenig yn arsyllu ond heb stopio'r distrywio.[6][7] Lladdwyd dros 90 Iddew yn ôl amcangyfrif o'r cyfnod, ond mae dadansoddiad modern o ffynonellau ysgolheigaidd Almaeneg yn rhoi'r ffigwr yn llawer uwch; pan fydd marwolaethau o gamdriniaeth ar ôl arestio a hunanladdiadau dilynol yn cael eu cynnwys, mae'r doll marwolaeth yn cyrraedd y cannoedd, gyda Richard J. Evans yn amcangyfrif 638 o farwolaethau trwy hunanladdiad.[8] Dalfadwyd dros 30,000 o ddynion Iddewig dan orchmynion i gipio cymaint o ddynion ifainc Iddewig ag y gellid eu dal yn y carchardai. Fe'i halltudiwyd wedyn ymlaen i wersylloedd crynhoi.

Mae'r arfer o'r awdurdodau grym neu lywodraeth yn arsyllu ond gwrthod stopio trais yn nodweddiadol o bogromau fel gwelwyd yn Ymerodraeth Rwsia ar ddiwedd 19g a dechrau'r 20g a gweithrediadau'r Cannoedd Duon a chyrchoedd treisiol gwrth-Iddewig eraill.

Yn fuan wedi dioddef y pogromau, beiwyd yr Iddewon am greu'r trais ac fe'u dirwywyd 1 biliwn Reichsmark (oddeutu $400 miliwn yn arian 2019). Ar ben hynny, atalfaelodd y Llywodraeth holl ad-daliadau yswiriant ar gyfer eiddo a ddifrodwyd gan y trais.

Erbyn heddiw, ystyrir Kristallnacht fel man cychwyn yr Holocost.[9][10]

Roedd maint creulondeb pogrom 9 Tachwedd yn annisgrifiadwy. Roedd Hermann Göring yn galaru am "golledion materol mawr" 9 Tachwedd 1938, gan ychwanegu: "Byddai'n well gennyf pe baent wedi llofruddio 200 o Iddewon yn lle dinistrio cymaint o bethau gwerthfawr!"

Dolenni allanol golygu

  • Kristallnacht: Remembering The 'Night Of Broken Glass' gan Radio Free Europe/Radio Liberty
  • atgofion dioddefwyr Holocaust survivors recount their memories of Kristallnacht Yad Vashem
  • "Kristallnacht: The November 1938 Pogroms". Online exhibitions, special topics. US Holocaust Memorial Museum. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Mai 2008. Cyrchwyd 20 Mai 2008.
  • Yad Vashem (2004). "Kristallnacht". Yad Vashem's Photo Archives. The Holocaust Martyrs' and Heroes' Remembrance Authority. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 March 2005. Cyrchwyd 2008-05-21.
  • Pogroms Gwefan yr Holocaust Encyclopaedia

Cyfeiriadau golygu

  1. Berenbaum, Michael (20 December 2018). "Kristallnacht". Encyclopædia Britannica. Encyclopædia Britannica, inc. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 July 2019. Cyrchwyd 1 July 2019. Kristallnacht, (German: “Crystal Night”), also called Night of Broken Glass or November Pogroms
  2. "Kristallnacht: Remembering The 'Night Of Broken Glass'". Radio Free Europe/Radio Liberty. 23 Ebrill 2019.
  3. "Kristallnacht". www.ushmm.org (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 May 2018. Cyrchwyd 2018-05-19.
  4. Friedländer, Saul. Nazi Germany and The Jews, volume 1: The Years of Persecution 1933–1939, London: Phoenix, 1997, p. 270
  5. Mommsen, Hans (12 December 1997). "Interview with Hans Mommsen" (PDF). Yad Vashem. Archifwyd (PDF) o'r gwreiddiol ar 1 February 2013. Cyrchwyd 6 February 2010.
  6. Berenbaum, Michael & Kramer, Arnold (2005). The World Must Know. United States Holocaust Memorial Museum. p. 49.
  7. Gilbert 2006, tt. 30–33
  8. "KRISTALLNACHT: DAMAGES AND DEATH". Holocaust Denial On Trial. Emory University. 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 January 2020. Cyrchwyd 9 September 2019.
  9. Multiple (1998). "Kristallnacht". The Hutchinson Encyclopedia. Hutchinson Encyclopedias (arg. 18th). London: Helicon. t. 1,199. ISBN 1-85833-951-0.
  10. "Kristallnacht: Remembering The 'Night Of Broken Glass'". Radio Free Europe/Radio Liberty. 23 Ebrill 2019.