Cwmni o siopau cadwyn archfarchnad oedd Kwik Save a sefydlwyd ym 1959 gan Gymro a anwyd yn y Rhyl, sef Albert Gubay.

Kwik Save
Math
busnes
Sefydlwyd1959
SefydlyddAlbert Gubay
Pencadlysy Deyrnas Unedig
Gwefanhttp://www.kwiksave.co.uk/ Edit this on Wikidata

Agorodd Mr Gubay y Kwik Save gyntaf ym Mhrestatyn, a bu pencadlys y cwmni yno am flynyddoedd. Fe werthodd e'r cwmni yn 1973 ac mae bellach yn byw ar Ynys Manaw. Unwyd y grŵp â Somerfield yn 1998. Aeth y cwmni i'r broses o weinyddiaeth ar 6 Gorffennaf 2007 gan gau'r rhanfwyaf o'i siopau ar draws Brydain, gan werthu'r 56 a oedd yn weddill i gwmni newydd FreshXpress.[1]

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am economeg neu arianneg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.