Kyrgyzstan Aba Joldoru

Cwmni hefan cenedlaethol Cirgistan o 1991 i 2005 oedd Kyrgyzstan Aba Joldoru (Cirgiseg: Кыргызстан Аба Жолдору; "Cwmni Awyr Cirgistan").

Kyrgyzstan Aba Joldoru
Enghraifft o'r canlynolcwmni hedfan Edit this on Wikidata
Daeth i ben2005 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1992 Edit this on Wikidata
PencadlysBishkek Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Awyren Airbus A320 a chanddi lifrai Kyrgyzstan Aba Joldoru.

Yn sgil cwymp yr Undeb Sofietaidd, sefydlwyd Kyrgyzstan Aba Joldoru yn 1991 i olynu cangen Aeroflot yng Nghirgistan. Lleolwyd ei bencadlys ym Maes Awyr Rhyngwladol Manas, tua 40 km o'r brifddinas Bishkek. Roedd yn cynnal ehediadau i feysydd awyr ar draws Cirgistan ac i nifer o gyrchfannau bychain yng nghyn-weriniaethau'r Undeb Sofietaidd. Bu'n rhaid rhoi terfyn ar nifer o'r rheiny yn y 1990au oherwydd nad oeddynt yn dwyn elw, ond parhaodd i gynnal ehediadau i bob dinas fawr yng Nghirgistan.[1]

Erbyn diwedd y 1990au roedd enciliad economaidd, a achoswyd gan argyfwng ariannol yn Rwsia yn 1998, a phryderon diogelwch wedi effeithio ar y diwydiant hedfan yng Nghirgistan. Ceisiodd y llywodraeth adfywio Kyrgyzstan Aba Joldoru yn hwb i dwristiaeth ac i atgyfnerthu cysylltiadau teithio rhyngwladol. Cymerodd awyren Airbus A320 ar brydles yn 1998 a threfnwyd pryniant dau Airbus A319 yn 2002. Adnewyddwyd Maes Awyr Manas gyda chredyd o UDA$50 miliwn o Japan. Yn 2001 roedd gan y cwmni rhyw 2000 o weithwyr, 130 o eroplenau, a 4 o hofrenyddion.[1]

Yn 2001 cadarnhawyd rhaglen gan y senedd i ddadreoli Kyrgyzstan Aba Joldoru a'i rhannu yn dri chwmni ar wahân, yr adran lywio, y meysydd awyr, a'r cwmni hedfan. Yn nechrau'r 2000au arwyddwyd cytundebau i gynnal ehediadau i ddinasoedd ar draws Asia ac Ewrop, gan gynnwys Beijing, Delhi, Dubai, Frankfurt am Main, Hannover, Istanbwl, Karachi, Moscfa, Seoul, a St Petersburg.[1] Aeth y cwmni yn fethiant yn 2005 a chafodd ei ddisodli yn gwmni hedfan cenedlaethol Cirgistan gan Eýr Kyrgyzstan.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Rafis Abazov, Historical Dictionary of Kyrgyzstan (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2004), t. 177.