Catalog ar-lein o gasgliadau llyfrgelloedd prifysgol ac ymchwil Sweden yw LIBRIS (o Library Information System yn y Saesneg; hefyd SE-LIBR). Mae'n cynnwys cofnodion ar oddeutu 6.5 miliwn o deitlau ac fe'i datblygwyd gan Lyfrgell Genedlaethol Sweden.[1] Yn 2011 rhyddhawyd Llyfryddiaeth Cenedlaethol Sweden a'r ffeiliau awdurdod cysylltiedig, sy'n rhan o LIBRIS, i'r parth cyhoeddus fel Data Agored. Bwriedir rhyddhau'r catalog cyfan yn yr un modd yn y pen draw.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) About LIBRIS. Llyfrgell Genedlaethol Sweden. Adalwyd ar 3 Rhagfyr 2014.
  2. (Saesneg) Open Data. Llyfrgell Genedlaethol Sweden. Adalwyd ar 3 Rhagfyr 2014.

Dolenni allanol golygu