Lafant

genws o blanhigion
Lafant
Blodau lafant
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Lamiales
Teulu: Lamiaceae
Genws: Lavandula
L.
Rhywogaethau

Lavandula angustifolia
Lavandula canariensis
Lavandula dentata
Lavandula x intermedia
Lavandula lanata
Lavandula latifolia
Lavandula multifida
Lavandula pinnata
Lavandula stoechas
Lavandula viridis
ac yn y blaen

Llysieuyn blodeuol yn nheulu'r mintys yw lafant (Lladin: Lavandula; Saesneg: Lavender). Mae 39 math ohonynt a gellir eu canfod drwy Ewrop, gogledd Affrica ac India. Y math mwyaf poblogaidd yw'r Lavandula angustifolia (a arferid ei alw'n L. officinalis). Mae math o'r enw L. stoechas hefyd yn boblogaidd yn enwedig pan fo'n cael ei blannu i'r llygad yn hytrach na'r gegin.

Defnydd golygu

Mae'r mathau Lavandula intermedia a'r Lavendin yn cael eu tyfu a'u cynaeafu'n fasnachol er mwyn eu holew gan fod eu blodau'n eithriadol o fawr. Defnyddir yr olew ar gyfer aromatherapi ac fel antiseptig. Cânt hefyd eu defnyddio mewn Potpourri oherwydd sawr hyfryd y planhigyn. Ers canrifoedd fe'u rhoddid mewn sachau bychan er mwyn arogl da, gan gynnwys eu rhoi mewn cwpwrdd dillad i gadw'r gwyfyn i ffwrdd.

Yn y gegin golygu

Gan fod peth wmbredd o neithdar yn y blodau mae'r wenynen yn hoff iawn o lafant. Defnyddir y perlysieuyn hwn yn aml mewn pwdinau, yn enwedig siocled, a'i wneud yn "siwgr lafant" ac yn "syryp lafant" hefyd. Caiff ei ddefnyddio mewn te llysieuol megis te gwyrdd neu du er mwyn ei arogl ffres sy'n ymlacio person. Fe'i defnyddid yn ardal Provence i felysu bwyd a chaiff ei baru'n aml gyda chawsiau megis caws gafr a chaws dafad. Yr egin (sy'n cael ei galw'n "flodau") yw'r brif ran sy'n cael ei ddefnyddio yn y gegin gan mai ynddyn nhw mae'r olew. Mae rhai cogyddion o Ffrainc yn arbrofi gyda'r dail, hefyd. Ystyr y gair Lladin lavare yw "ymolchi" - sy'n cysylltu'r planhigyn hwn gyda'r arferiad Rhufeinig o'i roi mewn bath er myn yr arogl da a'i allu i ymlacio'r person. Gall dyfu hyd at 60 cm o uchder.

Rhinweddau meddygol golygu

Arferid ei ddefnyddio yn ystod yr Ail Ryfel Byd i olchi lloriau a waliau gan ei fod yn 'antiseptig' mor wych. Caiff ei ddefnyddio'n aml ar bigiadau pryfaid i leddfu'r boen ac i gadw pryfaid i ffwrdd. Mae rhoi ychydig ar eich talcen yn help i leddfu cur pen hefyd ac mae ynddo rinweddau sy'n eich ymlacio ac yn help i berson gysgu'n well. Gellir rhoi'r hadau a'r blodau yn y gobennydd. Er mwyn ymlacio cyn gwely, dylid rhoi tri blodeuyn bach mewn mwg a'i lenwi gyda dŵr poeth. Honnir fod yr olew yn help i gliri acne hefyd.[1]

Dywedir y dylid defnyddio olew pur gan fod llai o sgil effeithiau iddo.

Cyfeiriadau golygu

Gweler hefyd golygu