Mae Laibach yn grŵp cerddorol avant-garde o Slofenia yn enwog am steil milwrol, diwydiannol a neo clasurol.

Laibach
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
GwladSlofenia Edit this on Wikidata
Rhan oNeue Slowenische Kunst Edit this on Wikidata
Label recordioStaalplaat, Mute Records Edit this on Wikidata
Dod i'r brig1980 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1 Mehefin 1980 Edit this on Wikidata
Genrecerddoriaeth boblogaidd, tecno, electronic body music, industrial music, ôl-pync, avant-garde music, cerddoriaeth arbrofol, dark wave Edit this on Wikidata
Yn cynnwysMilan Fras, Eva Breznikar, Mina Špiler, Ivan Novak, Luka Jamnik, Janez Gabrič Edit this on Wikidata
Enw brodorolLaibach Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.laibach.org/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Canwr Milan Fras gyda Mina Špiler, Laibach, yn perfformio yn Le Trabendo, Paris, 8 Mawrth 2014
Aelodau Laibach, 2011

Mae delwedd y band yn fwriadol anghyffyrddus i'r cyhoedd gan fenthyg amrywiaeth fawr o bropaganda, celfyddyd a dillad ffasgaidd, dyfodoliaeth, totalitaraidd a chomiwnyddol y 1930au-1950au.

Mae Laibach yn adnabyddus am beidio â gwadu neu gadarnhau os ydyn nhw yn gefnogol totalitariaeth neu'n barodi.

Bu Laibach yn y newyddion am fod y grŵp gorllewinol cyntaf i gael y cyfle i berfformio yng Ngogledd Corea.[1]. Chwaraeodd y band dwy gyngerdd yn Awst, 2015 yn y brif ddinas Pyongyang fel rhan o ddathliadau 70 mlynedd ers rhyddhau Gogledd Corea o reolaeth Japan[2]

Mae'r enw Laibach yw'r gair Almaeneg am brif ddinas Slofenia Ljubljana a orfodwyd gan luoedd Almaenig yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Dyddiau cynnar golygu

 
Laibach 1983. Roedd awdurdodau Iwgoslafia yn anhapus gyda delwedd y band

Ffurfiwyd ym 1980 fel y rhan gerddorol o fudiad celfyddydol Neue Slowenische Kunst - NSK (Almaeneg: Celfyddyd Newydd Slofenaidd) yn nhref lofaol Trbovlje, Slofenia a oedd pryd hynny'n rhan o Iwgoslafia Comiwnyddol.[3]

Er i Iwgoslafia fod yn un o'r llywodraethau comiwnyddol mwyaf agored[4], cafodd berfformiadau cynnar Laibach eu gwahardd gan yr awdurdodau a oedd yn anfodlon gydag enw a delweddau'r grŵp, yn arbennig logo'r band - sydd yn seiliedig ar ddarlun y Groes Ddu (1923) gan Kazimir Malevich, a'u dillad partisan Slofenaidd.

Ym 1982 cyflawnodd ganwr gwreiddiol y band Tomaž Hostnik hunanladdiad seremonïol trwy grogi ei hun ar un o symbolau cenedlaethol cryfach Slofenia y kozolc.[5]

Llwyddiant rhyngwladol golygu

Yn 1984 symudodd aelodau'r band i Lundain i weithio fel adeiladwyr ac fel actorion ecstra mewn ffilm Stanley Kubrick Full Metal Jacket. Rhyddhawyd eu hail record hir Nova Akropola gan y cwmni Cherry Red a'u trydydd Opus Dei gan gwmni Mute. Cafodd y grŵp eu herlyn yn y llys yn aflwyddiannus gan y mudiad gatholig ffwndamentalaidd Opus Dei.[6]

Chwaraewyd yn gyson ar raglen John Peel ar BBC Radio 1 yn arbennig eu parodiau o ganeuon llwyddiannus y cyfnod Live is Life gan Opus ac One Vision (Geburt Einer Nation) gan Queen yn droi'r ddwy gân fasnachol poblogaidd i fod yn anthemau milwrol totalitaraidd.[7][8]

Dangoswyd fideo Geburt Einer Nation ar y gyfres cyntaf o Fideo 9 ar S4C ym 1988.

Ar ddiwedd yr 80au rhyddhawyd yr LP Let it Be, fersiwn Laibach o record y Beatles, eto trowyd y caneuon i ardull anghyfforddus neu fygythiol.[9]

Hefyd rhyddhawyd yr LP Sympathy for the Devil, casglaid o fersiynnau o gân 1968 y Rolling Stones yn cynnwys sawl 'dance mix'.[10]

Mae recordiau eraill Laibach yn cynnwys eu fersiynau o The Final Countdown gan Europe, In the Army Now gan Status Quo, opera roc Andrew Lloyd Weber Jesus Christ Superstar [11] a fersiwn o The Ride Of The Valkyries gan Richard Wagner mewn cydweithrediad â cherddorfa Radio Teledu Slofenia o'r enw VolksWagner.

Yn 2004 rhyddhawyd yr LP Volk gyda fersiynnau o anthemau cenedlaethol sawl gwlad.[12]

Yn 2012 recordiwyd Laibach y cerddoriaeth ar gyfer y ffilm Iron Sky. Ffilm am griw o Natsïaid a lwyddodd ddianc yr Almaen ym 1945 i fyw ar ochr dywyll y lleuad ond i ddod yn ôl i ail-concro'r ddaear[13]

Yn 2014 rhyddhawyd yr LP Spectre gyda'r caneuon Europe is Falling Apart yn cyfeirio at broblemau cyfoes Ewrop a Whistleblowers yn cyfeirio at achosion WikiLeaks ac Edward Snowden.[14]

Gwladwriaeth NSK golygu

 
Logo NSK

Ers 1991 mae'r mudiad celfyddydol Neue Slowenische Kunst - NSK (Almaeneg: Celfyddyd Newydd Slofenaidd) wedi datgan eu bod yn wladwriaeth ac yn cyhoeddi pasbort swyddogol i ymgeiswyr llwyddiannus. Maent hefyd wedi agor nifer o lysgenadaethau ar draws y byd.[15]

Dyfyniadau golygu

Mae Laibach yn adnabyddus am beidio â gwadu neu gadarnhau os ydyn nhw yn gefnogol neu'n barodi o dotalitariaeth gydag aelodau'r band wastad yn aros yn eu cymeriadau llwyfan ar gyfer cyfweliadau.

Pan gofynnwyd iddynt os oeddent yn ffasgwyr eu hateb oedd “We are fascists as much as Hitler was a painter”[16]

Pan gofynnwyd Labaich am eu prif dylanwdau atebwyd - “Tito, Toto a Tati” (Tito yn arweinydd comiwnyddol Iwgoslafia, Toto yn fand 'soft rock' Americanaidd a Tati yn Jacques Tati, digrifwr Ffrangeg).[17]

Yn ôl yr athronydd Slofiniadd Slavoj Žižek mae gofyn os yw Laibach yn eironig neu beidio'n methu pwynt. Mae Žižek yn dadlau ein bod yn byw mewn oes ble mae pobol yn cadw pellter eironig oddi wrth eu 'meistri gwleidyddol' ac eu hideoleg. Mae or-brwdfrydedd Laibach dros beryglon grym ac ideoleg yn llawer fwy tanseiliol. Beth sydd yn gwneud Laibach yn nodweddiadol yw eu bod yn ymddangos i gymryd y system, grym ac ideoleg llawer yn fwy o ddifrif nac mae'r system eu hun yn ei wneud.[18]

Ysgrifennodd Richard Wolfson am Laibach:

Laibach's method is extremely simple, effective and horribly open to misinterpretation. First of all, they absorb the mannerisms of the enemy, adopting all the seductive trappings and symbols of state power, and then they exaggerate everything to the edge of parody...[19]

Aelodau Labiach 2015 golygu

  • Milan Fras - canwr
  • Ivan Novak – golau a taflunyddion
  • Mina Špiler - llais, syntheseinydd
  • Janez Gabrič - drymiau
  • Luka Jamnik - syntheseinydd
  • Rok Lopatič - syntheseinydd

Discograffi golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. http://www.bbc.co.uk/news/world-asia-33530538
  2. http://www.bbc.co.uk/news/world-asia-33995842
  3. http://nskunst.tripod.com/history/
  4. "Socialism of Sorts". Time Magazine. 10 Mehefin 1966. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-06-23. Cyrchwyd 27 Ebrill 2010.
  5. https://en.wikipedia.org/wiki/Hayrack
  6. http://thequietus.com/articles/10000-laibach-interview-history-nsk
  7. https://www.youtube.com/watch?v=ZZAD7W3M4zc
  8. https://www.youtube.com/watch?v=LB9lObWclFQ
  9. http://www.allmusic.com/album/let-it-be-mw0000652919
  10. http://www.allmusic.com/album/sympathy-for-the-devil-mw0000202455
  11. http://www.allmusic.com/album/jesus-christ-superstars-mw0000080368
  12. http://www.sputnikmusic.com/review/54692/Laibach-Volk/
  13. http://www.imdb.com/title/tt1034314/
  14. https://en.wikipedia.org/wiki/Whistleblower
  15. http://www.passport.nsk.si/en/about_us
  16. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-27. Cyrchwyd 2015-07-20.
  17. Janjatović, Petar. EX YU ROCK enciklopedija 1960-2006. ISBN 978-86-905317-1-4. Following the album release, the group embarked on a European tour, during which they stated at a press conference in France that their influences are Tito, Toto and Jacques Tati.
  18. https://www.youtube.com/watch?v=1BZl8ScVYvA
  19. Richard Wolfson, "Warriors of weirdness" Archifwyd 2007-10-16 yn y Peiriant Wayback., The Daily Telegraph, 4 Medi 2003

Dolenni allanol golygu