Grŵp o frodorion Gogledd America yw'r Lakota (hefyd Lakhota, Teton neu Titonwon). Hwy yw'r mwyaf gorllewinol o dair cangen y Sioux, gyda'u tiroedd yn naleithiau Gogledd Dakota a De Dakota. Maent yn siarad yr iaith Lakota, un o dair prif tafodiaith yr iaith Sioux. Ceir saith cangen o'r Lakota: y Brulé, Oglala, Sans Arcs, Hunkpapa, Miniconjou, Sihasapa a'r Two Kettles.

Lakota
Enghraifft o'r canlynolllwyth Americanaidd Brodorol a gydnabyddir yn ffederal yn yr Unol Daleithiau, cenedl, pobloedd brodorol Gogledd America Edit this on Wikidata
MathSioux Edit this on Wikidata
Yn cynnwysOglala Lakota, Brulé, Miniconjou, Hunkpapa, Sihasapa, Sans Arc, Two Kettles Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Eddie Plenty Holes, un o'r Lakota, llun o tua 1899

Roedd tua 20,000 o Lakota yng nghanol y 18g; erbyn hyn mae tua 70,000, gyda tua 20,500 o'r rhain yn siard yr iaith Lakota. Yn y 19g bu llawer o ymladd rhwng y Lakota a byddin yr Unol Daleithiau. Roedd ardal y Bryniau Duon yn gysegredig i'r Lakota, ac roeddynt yn bendefynol o'i amddiffyn. Llwyddodd y Lakota gyda'r Arapaho a'r Cheyenne o orchfygu'r cadfridog George Crook ym Mrwydr y Rosebud, ac wythnos yn ddiweddarch i orchfygu'r Seithfed Marchoglu dan George Armstrong Custer ym Mrwydr Little Big Horn yn 1876, gan ladd Custer a 258 o'i filwyr. Yn y diwedd, fodd bynnag, bu raid iddynt ildio i'r fyddin, a gyrrwyd hwy i warchodfeydd. Yn 1877 gorfodwyd hwy i arwyddo cytuneb yn trosglwyddo'r Bryniau Duon i'r Unol Daleithiau.

Erbyn heddiw ceir y mwyafrif o'r Lakota mewn pump gwarchodfa yng ngorllewin De Dakota: Rosebud(y Brulé), Pine Ridge (Oglala), Lower Brulé (Brulé), Cheyenne River (nifer o ganghennau, yn cynnwys y Sihasapa a'r Hunkpapa), a Standing Rock (nifer o ganghennau).

Lakota enwog golygu