Lancelot Bulkeley

Clerigwr ac Archesgob Dulyn rhwng 1619 a 1650 oedd Lancelot Bulkeley (c. 1568 –- 8 Medi 1650) (weithiau Launcelot). Roedd yn fab i Richard Bulkeley (bu farw 1573) a hanner brawd Richard Bulkeley (bu farw 1621). Roedd yn enedigol o Fiwmares ac yn un o deulu'r Bwcleaid a oedd a'u cartref teuluol ym Mryn Barwn gerllaw Biwmares, Ynys Môn.

Lancelot Bulkeley
Ganwyd1568 Edit this on Wikidata
Biwmares Edit this on Wikidata
Bu farw1650 Edit this on Wikidata
Tallaght Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethoffeiriad Edit this on Wikidata
TadRichard Bulkeley Edit this on Wikidata
MamAgnes Needham Edit this on Wikidata
PlantSir Richard Bulkeley, 1st Baronet, William Bulkeley, Mary Bulkeley, Grissel Bulkeley Edit this on Wikidata

Ar 1 Tachwedd 1649, cafodd ei arestio yn Nulyn am ddefnyddio'r Llyfr Gweddi Gyffredin.

Magwraeth ac addysg golygu

Ef oedd 11fed mab Richard Bulkeley (bu farw 1573), o Fiwmares, ac ail blentyn ei ail-wraig Agnes (merch Thomas Needham o Stenton). Derbyniodd addysg yng Ngholeg y Trwyn Pres, Rhydychen, gan ddechrau yno yn 1587. Wedi iddo dderbyn gradd B.A. yno, aeth i Neuadd Sant Edmwnd, coleg arall yn Rhydychen ble cwbwlhaodd ei M.A. yn 1593.

Yr Eglwys golygu

Ar 13 Tachwedd 1593 fe'i ordeiniwyd yn ddeacon gan yr Esgob Hugh Bellot, o Esgobaeth Bangor. Ychydig wedi hynny penodwyd ef gan Iago, brenin Lloegr yn Aelod o Gyfrin Gyngor Iwerddon.

Ceisio wahardd dathliadau cyhoeddus o'r Offeren Gatholig. Pan glywodd trigolion y ddinas y newyddion hwn bu terfysg a thaflwyd cerrig ar Bulkeley, a ddihangodd i dŷ gerllaw. Gwrthododd Cyngor y Ddinas ei gefnogi mewn unrhyw ffordd a gwaharddwyd milwyr Coron Lloegr rhag atal y terfysgwyr.

Ar 1 Tachwedd 1649, cafodd ei arestio yn Nulyn am ddefnyddio'r Llyfr Gweddi Gyffredin, a waharddwyd gan Ddeddf 1647, Lloegr. Bu farw yn Tallaght, (Gwyddeleg: Tamhlacht) yn 82 oed ar 8 Medi 1650.

Gweler hefyd golygu

Ffynonellau golygu

  • "Bulkeley, Launcelot". Dictionary of National Biography. Llundain: Smith, Elder & Co. 1885–1900.