Landnámabók

Llawysgrif gwladychu Gwlad yr Iâ

Mae'r Landnámabók (ynganiad yn Islandeg: lantnaumaˌpouk, “Llyfr y Gwladychu”), a dalfyrir yn aml i Landnáma, yn llyfr Canol Oesol o Wlad yr Iâ sydd yn esbonio mewn manyldeb hanes gwladychu Gwlad yr Iâ gan y Northmyn yn yr 9g a'r 10g.

Landnámabók
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurAri Þorgilsson Edit this on Wikidata
IaithIslandeg Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Tudalen o femrwn o lawysgrif Landnáma yn Athrofa Astudiaethau Islandeg Árni Magnússon in Reykjavík

Landnáma golygu

 
Blaen dalen fersiwn a olygwyd gan H. Kruse yn 1688

Rhennir y Landnámabók mewn i bum rhan a thros 100 o benodau. Mae'r rhan gyntaf yn adrodd sut y gwladychwyd yr ynys. Mae'r rhannau eraill wedyn yn adrodd hanes y gwladychu yn ddaearyddol, chwarter wrth chwarter gan ddechrau yn y gorllewin a gorffen gyda'r de. Mae'n olrhain digwyddiadau a hanes teuluoedd hyd at y 12g. Disgrifir hanes dros 3,000 person a 1,400 annedd neu dreflan. Mae'n nodi lle ymsefydlodd pob ymsefydlydd gan gynnwys ach byr i'r teulu. Ceir weithiau storiau byrion anecdotaidd yn y llyfr.

Rhestra'r Landnámabók 435 dyn fel y sefydlwyr cychwynnol, gyda'r mwyafrif yn ymsefydlu yn rhannau gogleddol a de-orllewinnol yr ynys. Mae'n sefyll fel ffynhonnell amhrisiadwy ar hanes ac ach pobl Gwlad yr Iâ.

Ceir trafodaeth ai un awdur sydd i'r llyfr neu bod gwahanol bobl wedi cyfrannu at ei ysgrifennu wrth iddynt gwrdd yn yr þing (cynulliad Gwlad yr Iâ).

Fersiynau sydd wedi goresgyn golygu

Dydy'r copi gwreiddiol un o'r llyfr heb oresgyn a daw'r fersiynau cynharaf sydd gennym o ail hanner y 13g neu ychydig yn hwyrach. Credir i'r fersiwn wreiddiol gael ei hysgrifennu yn y 11g, a chredir iddi darddu gyda Ari Þorgilsson inn frodi (1068-1148), neu ei fod wedi cymryd rhan yn ei chreu.

Digwyddodd gwladychiad gyntaf Gwlad yr Iâ yn ystod Oes y Llychlyniaid rhwng 870 a 930, ond mae'r Landnámabók yn nodi disgynyddion oedd yn byw wedi hynny fewn i'r 11g.

Mae pum fersiwn canol oesol o'r Landnámabók.

  • Sturlubók gan Sturla Þórðarson (1214-1284), a ysgrifennwyd fe gredir rhwng 1275 a 1280. Dyma'r unig fersiwn lawn sydd wedi ei chadw.
  • Hauksbók gan Haukr Erlendsson († 1331), a seiliwyd ar Sturlubók a fersiwn golledig gan Styrmir Kárason. Casglwyd at ei gilydd rhwng 1306 a 1308
  • Melabók yw'r trydydd fersiwn. Dim ond darnau ohono sydd wedi goresgyn mewn dau lawysgrif memrwn. Ond credir mai'r Melabók yw'r fersiwn sydd yn cyfleu y testun wreiddiol orau.
  • Skarðsárbók casglwyd ynghyd y Skarðsárbók cyn 1636 gan Björn Jónsson, a seiliodd ar ei lawysgrif ar fersiwn Sturlubók a Hauksbók.
  • Þórðarbók mae rhannau o'r Melabók yn y Þórðarbók, fersiwn o'r Landnámabók o 16g a ysgrifennwyd gan Þórður Jónsson o Hítardalur.

Mae the epilog Hauksbók Haukr yn sôn am fersiynau eraill, hŷn nad sydd wedi goroesi. Mae'n sôn hefyd y dylsai'r Landnámabók wreiddiol ddychwelyn nôl at Ari Þorgilsson a Kolskeggr Asbjarnarson, ac iddo gael ei chreu tua 1100. Nodir bod fesiwn arall, y Styrmisbók gan Styrmir Kárason (m. 1245) wedi ei hysgrifennu tua 1220 a'i bod yn perthyn yn agos i'r Melabók.

Dolenni allanol golygu