Laura Elizabeth McLaren

Roedd Laura Elizabeth McLaren, (née Pochin) Arglwyddes Aberconwy (14 Mai 18544 Ionawr 1933) yn ymgyrchydd dros hawliau merched ac yn arddwr.[1]

Laura Elizabeth McLaren
Ganwyd14 Mai 1854 Edit this on Wikidata
Broughton Edit this on Wikidata
Bu farw4 Ionawr 1933 Edit this on Wikidata
Antibes Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethgarddwr, golygydd, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched Edit this on Wikidata
TadHenry Davis Pochin Edit this on Wikidata
MamAgnes Pochin Edit this on Wikidata
PriodCharles McLaren, Barwn 1af Aberconwy Edit this on Wikidata
PlantHenry Duncan McLaren, Florence Norman, Elsie Dorothea McLaren, Francis McLaren Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE, Medal Anrhydedd Victoria Edit this on Wikidata

Bywyd Personol golygu

Ganwyd Pochin  yn Gamp Street, Broughton, Swydd Gaerhirfryn yn ferch i Henry Davis Pochin (1824-1895). Roedd o’n gemegydd diwydiannol ac yn wleidydd Rhyddfrydol. Bu mam Laura Elizabeth Agnes Pochin (née Heap) hefyd yn amlwg yn y frwydr dros hawliau merched.

Er nad oes cofnod o ble neu sut cafodd Laura ei haddysgu, mae’n debyg y byddai wedi derbyn hyfforddiant academaidd gan fod ei dau riant yn credu’n gryf y dylid trin merched a bechgyn yn gyfartal yn niwylliannol, cyfreithiol a gwleidyddol. Cyhoeddodd ei mam pamffled yn hawlio dylai pob merch derbyn addysg ddigonol i’w galluogi i ddilyn gyrfa.

Ym 1877 priododd Charles Benjamin Bright McLaren, bargyfreithiwr ac Aelod Seneddol. Urddwyd Charles yn Farwn 1af Aberconwy ym 1911, a gan hynny daeth y teitl Arglwyddes Aberconwy i Laura Elizabeth. Bu iddynt 4 plentyn dwy ferch a dau fab; bu farw’r ail fab yn y Rhyfel Byd Cyntaf

Ymgyrchydd dros hawliau ferched golygu

Yn blentyn mynychodd Laura McLaren y cyfarfod cyhoeddus cyntaf yng ngwledydd Prydain i alw am y bleidlais i ferched. Roedd ei mam yn un o’r siaradwyr. Bu ganddi ddiddordeb byw yn yr ymgyrch swffrag ac ymgyrchoedd eraill dros hawl y ferch oddi ar hynny.

Yn fuan ar ôl ei phriodas daeth yn aelod o bwyllgor gweithredol Cymdeithas Genedlaethol Llundain Dros Bleidlais i Ferched; daeth yn aelod o'r pwyllgor cyllid, ac roedd yn drysorydd ym 1885. Yn ddiweddarach bu hi'n gwasanaethu ar bwyllgor gweithredol Cymdeithas Genedlaethol Ganolog Llundain dros Swffrag i Fenywod. Fe’i penodwyd yn llywydd Cymdeithas Ryddfrydol Merched De Kensington. Tua 1890 bu’n gyfrifol am baratoi crynodeb o'r dystiolaeth a gyflwynwyd i Dŷ'r Arglwyddi ar y system o chwys-lafur (gweithio’n hir am gyflog prin mewn amgylchiadau peryglus).[2]

Ym 1908 cyhoeddwyd ei phamffled ‘’Better and Happier’’[3], a oedd yn ateb i'r areithiau seneddol a draddodwyd mewn gwrthwynebiad i Fesur Pleidlais y Merched a chyflwynwyd i'r Senedd ar 28 Chwefror, 1908.

Hi oedd prif awdur y ddogfen The Woman's Charter of Rights and Liberties-Preliminary Draft (1909)[4] a gynhyrchwyd gan Gyngor Rhyngwladol Swffrag i Fenywod. Y bwriad oedd ei gyflwyno ar yr un pryd i holl seneddau'r byd.

 
Bodnant

Ym 1913 penodwyd McLaren yn is-lywydd y Cynghrair Gwleidyddol Cenedlaethol ar gyfer Dynion a Menywod mudiad amhleidiol i frwydro dros ehangu’r bleidlais.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf bu'n rhedeg cartref nyrsio ar gyfer swyddogion yn ei chartref yn Llundain, 43 Belgrave Square. Ar ddiwedd y rhyfel cafodd ei phenodi’n CBE a'i urddo’n boneddiges gras gan Urdd Sant Ioan o Jerwsalem[5]. Ar ôl y rhyfel, gyda'r mater bleidlais wedi cael ei setlo, bu hi'n parhau i ymgyrchu dros achosion ffeministaidd fel aelod o’r Open Door Council a sefydlwyd gan Arglwyddes Rhondda a hybu cyfleoedd gwaith i ferched. 

Garddio golygu

Pan fu farw ei thad roedd dau o'i chwe phlentyn yn dal yn fyw Laura a Percival Gerard ei fab; gan fod Percival wedi dwyn gwarth ar y teulu trwy gael ei erlyn am gam drin plentyn [6] torrwyd ef allan o’r ewyllys ac etifeddodd Laura stad Bodnant ger Eglwysbach yn Nyffryn Conwy. Laura oedd yn gyfrifol am ddechrau troi tiroedd yr ystâd yn gerddi hyfryd. Roedd ganddi ddiddordeb arbennig mewn planhigion llysieuol y gwanwyn a'r haf, rhosod, rhosod y mynydd, a fflora brodorol. Bu’n bennaf gyfrifol am ddatblygu’r ffiniau lled ffurfiol o amgylch y tŷ. Magodd diddordeb mewn garddio yn ei fab, Henry Duncan McLaren, gan ymddiried gofal dydd i ddydd o erddi Bodnant iddo ym 1901[7] tra bu hi’n ymdrin â’i gerddi yn Château de la Garoupe, ei fila ger Antibes, Ffrainc[8]

Marwolaeth golygu

 
The Poem, claddgell Bodnant

Bu farw Arglwyddes Aberconwy ar 4 Ionawr 1933 yn  Château de la Garoupe, gan adael ystâd werth £ 0.75 miliwn. Dygwyd ei gweddillion yn ôl i Gymru i’w gorffwys yng nghladdgell Bodnant, The Poem.

Cyfeiriadau golygu

  1. Elizabeth Crawford, ‘McLaren, Laura Elizabeth, Lady Aberconway (1854–1933)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004 adalwyd 4 Mehefin 2017
  2. The Women's Suffrage Movement: A Reference Guide 1866-1928
  3. "Better and happier" : an answer from the ladies' gallery to the speeches in opposition to the Women's Suffrage Bill, February 28th, 1908 / by Lady McLaren
  4. The Woman's Charter of Rights and Liberties-Preliminary Draft (1909). Copi ar lein
  5. "Lady Aberconway." Times (London, England) 5 Jan. 1933: 12. The Times Digital Archive. Web. 4 Mehefin 2017.
  6. "ILL TREATING A PAGE - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1891-01-31. Cyrchwyd 2016-07-07.
  7. "Parks & Gardens Lady Laura Elizabeth McLaren, Baroness Aberconway". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-08-08. Cyrchwyd 2017-06-04.
  8. Chateau de la Garoupe – Cap d’Antibes