Laurence Olivier

cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd a sgriptiwr ffilm a aned yn Dorking yn 1907

Actor, cyfarwyddwr a chynhyrchydd Seisnig oedd Laurence Kerr Olivier OM, hefyd Marchog Baglor a Barwn Olivier (22 Mai 190711 Gorffennaf 1989), a enillodd nifer o wobrau am ei waith. Roedd yn un o actorion enwocaf ac uchaf ei barch yn yr 20g, ynghyd â'i gyfoedion John Gielgud, Peggy Ashcroft a Ralph Richardson. Chwaraeodd Olivier ystod o rôlau amrywiol ar lwyfan ac ar y sgrîn fawr, gan amrywio o drasiediau Groegaidd, Shakespeare i gomedïau Prydeinig ac Americanaidd.

Laurence Olivier
GanwydLaurence Kerr Olivier Edit this on Wikidata
22 Mai 1907 Edit this on Wikidata
Dorking Edit this on Wikidata
Bu farw11 Gorffennaf 1989 Edit this on Wikidata
Gorllewin Sussex Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Ganolog Llefaru a Drama
  • St Edward's School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor ffilm, cyfarwyddwr theatr, cyfarwyddwr ffilm, gwleidydd, cynhyrchydd ffilm, sgriptiwr, actor cymeriad, actor llwyfan, actor teledu, actor, cyfarwyddwr, dramodydd, cynhyrchydd Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Dŷ'r Arglwyddi Edit this on Wikidata
Adnabyddus amMarathon Man, Wuthering Heights, Hamlet, Richard III, Rebecca, Henry V Edit this on Wikidata
Arddullcomedi Shakespearaidd Edit this on Wikidata
TadGerald Kerr Olivier Edit this on Wikidata
MamAgnes Louise Crookenden Edit this on Wikidata
PriodJill Esmond, Vivien Leigh, Joan Plowright Edit this on Wikidata
PlantTamsin Olivier, Simon Tarquin Olivier, Richard Olivier, Julie-Kate Olivier Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Cymdeithas Academi BAFTA, Gwobr yr Academi am Actor Gorau, Medal Albert, Gwobr Anrhydeddus yr Academi, Golden Globe Award for Best Actor in a Leading Role, Gwobr Feltrinelli, Sonning Prize, Gwobr Golden Raspberry i'r Actor Wrth Gefn Gwaethaf, Golden Raspberry Award for Worst Actor, Gwobr y Bwrdd Adolygu Cenedlaethol am y Ffilm Orau, Marchog Faglor, Primetime Emmy Award for Outstanding Lead Actor in a Miniseries or a Movie, Primetime Emmy Award for Outstanding Lead Actor in a Miniseries or a Movie, Urdd Teilyngdod, Officier de la Légion d'honneur, Gwobr Anrhydeddus yr Academi, British Academy of Film and Television Arts, Primetime Emmy Award for Outstanding Supporting Actor in a Miniseries or a Movie, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobrau Donaldson, Gwobr Arbennig Cymdeithas Theatr Llundain, Gwobr y Glob Aur am yr Actor Cefnogol Gorau - ar ffim Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.laurenceolivier.com Edit this on Wikidata

Ef oedd cyfarwyddwr creadigol Theatr Genedlaethol y Deyrnas Unedig ac enwyd y prif lwyfan ar ei ôl. Caiff ei ystyried gan nifer fel actor gorau yr 20g. Derbyniodd Olivier bedair ar ddeg enwebiad am Oscar gan ennill dwy ohonynt am yr Actor Gorau a'r Ffilm Orau am Hamlet, a dwy wobr anrhydeddus gan gynnwys cerflun a thystysgrif. Enillodd bum Gwobr Emmy hefyd o'r naw y cafodd ei enwebu ar eu cyfer. Hefyd enillodd dair Golden Globe a BAFTA.

Gwragedd golygu

   Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.