Beirniad celf a churadur o Sais a dreuliodd y rhan fwyaf o'i yrfa yn Unol Daleithiau America oedd Lawrence Alloway (17 Medi 19262 Ionawr 1990). Arbenigodd mewn celf fodern yr Unol Daleithiau yn ail hanner yr 20g, yn enwedig mynegiadaeth, celf haniaethol, a chelf bop. Priodolir iddo fathu'r enw pop art.

Lawrence Alloway
Ganwyd17 Medi 1926 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw2 Ionawr 1990 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America, Lloegr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethbeirniad celf, curadur, hanesydd celf Edit this on Wikidata
PriodSylvia Sleigh Edit this on Wikidata

Ganwyd yn Wimbledon, Llundain, yn fab i werthwr llyfrau. Cafodd y rhan fwyaf o'i addysg yn y cartref oherwydd iddo ddioddef twbercwlosis yn ei fachgendod.[1] Magodd Lawrence ddiddordeb mewn diwylliant poblogaidd, yn enwedig comics a ffilmiau gwyddonias.[2] Astudiodd hanes celf ym Mhrifysgol Llundain, er na derbyniodd ei radd.[3] Priododd yr arlunydd o Gymraes Sylvia Sleigh yn 1954.

Gwasanaethodd yn swydd isgyfarwyddwr Sefydliad Celf Gyfoes Llundain (ICA) yn y cyfnod 1955–57. Roedd Alloway yn hoff o waith Eduardo Paolozzi a William Turnbull, ac ymunodd â'r Independent Group yn 1955.[2] Wedi iddo adael yr ICA, cyhoeddwyd ysgrif ddylanwadol ganddo yn y cyfnodolyn Architectural Design yn Chwefror 1958, dan y teitl "The Arts and the Mass Media". Yn y traethawd hwn amlinellir cysyniadau sylfaenol Alloway ynglŷn â chelf, sy'n gwrthod y ddeuoliaeth uchel gelfkitsch a boblogeiddwyd gan Clement Greenberg, gan hawlio bod "continwwm celf boblogaidd yn dilyn hynt o ddata i ffantasi".[4]

Ymwelodd Alloway â'r Unol Daleithiau yn 1958 gyda rhodd gan yr Adran Wladol i astudio celf Americanaidd.[2] Symudodd i'r wlad yn 1961 i ddarlithio am gyfnod byr yng Ngholeg Bennington, Vermont, cyn iddo gymryd swydd uwch-guradur yn amgueddfa'r Guggenheim, Dinas Efrog Newydd. Yno fe drefnodd arddangosfeydd o waith y Mynegiadwyr Haniaethol ac arlunwyr Art Informel, yn ogystal â chelf bop a Minimaliaeth.[5] Gadawodd y swydd yn 1966 yn sgil ffrae rhyngddo a chyfarwyddwr y Guggenheim, Thomas Messer, ynglŷn â detholiadau'r arddangosfa Americanaidd ar gyfer y Venice Biennale.[1]

Wrth i'r 1960au mynd rhagddi, pwysleisiodd Alloway yn fwyfwy ddiffiniad agored o gelf, a'r angen am y celfyddydau cain a diwylliant poblogaidd i gyflenwi ei gilydd. Yn ei feirniadaeth, rhagflaenai ôl-fodernwyr y 1980au drwy wfftio hierarchaeth esthetig ac ymdrin â chelfyddydweithiau mewn cyd-destunau priodol. Ymddangosodd ei ysgrifau beirniadol yn aml yn The Nation (1968–81) ac Artforum (1971–76).[3] Cydsefydlodd y cylchgrawn Art Criticism gyda'r beirniad Donald Kuspit. Fe'i penodwyd yn athro hanes celf ym Mhrifysol Talaith Efrog Newydd, Stony Brook yn 1968, ac addysgodd yno nes 1981.[1] Cyhoeddodd sawl cyfrol o feirniadaeth ac ysgrifau, gan gynnwys Topics in American Art Since 1945 (1975) a Network: Art and the Complex Present (1984), a monograff ar waith Roy Lichtenstein yn 1983. Ysgrifennodd Alloway hefyd feirniadaeth ffilm ar gyfer y cylchgrawn British Movie, a chyhoeddodd y gyfrol Violent America: the Movies 1946–64 yn 1971.

Dioddefodd o anhwylder niwrolegol, a bu'n defnyddio cadair olwyn ers 1981. Bu farw yn ei gartref ym Manhattan o ataliad ar y galon yn 63 oed.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) "Lawrence Alloway Is Dead at 63; Art Historian, Curator and Critic", The New York Times (3 Ionawr 1990). Adalwyd ar 20 Chwefror 2019.
  2. 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) "Lawrece Alloway Archifwyd 2019-03-04 yn y Peiriant Wayback.", The Independent Group. Adalwyd ar 20 Chwefror 2019.
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) Lawrence Alloway. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 20 Chwefror 2019.
  4. Dyfyniad gwreiddiol yn Saesneg: there is in popular art a continuum from data to fantasy.
  5. (Saesneg) "Lawrence Alloway", Guggeinheim. Adalwyd ar 20 Chwefror 2019.

Darllen pellach golygu

  • Lucy Bradnock, Courtney J. Martin, a Rebecca Peabody, Lawrence Alloway: Critic and Curator (Los Angeles: Getty, 2015).
  • Nigel Whiteley, Art and Pluralism: Lawrence Alloway’s Cultural Criticism (Lerpwl: Liverpool University Press, 2012).