Ffisegydd Hwngaraidd a ymfudai i Unol Daleithiau America oedd Leó Szilárd (11 Chwefror 189830 Mai 1964) sydd yn nodedig am lunio'r adwaith cadwynol niwclear ac am ei ran ym Mhrosiect Manhattan.

Leó Szilárd
Leó Szilárd, tua 1960.
Ganwyd11 Chwefror 1898 Edit this on Wikidata
Budapest Edit this on Wikidata
Bu farw30 Mai 1964 Edit this on Wikidata
San Diego Edit this on Wikidata
DinasyddiaethHwngari Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Technegol Berlin Edit this on Wikidata
ymgynghorydd y doethor
Galwedigaethgwyddonydd niwclear, dyfeisiwr, ffisegydd, academydd, gwyddonydd, biolegydd ym maes molecwlau Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auOriel yr Anfarwolion Genedlaethol Dyfeiswyr Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed ef yn Budapest, Teyrnas Hwngari. Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf, aeth i'r Almaen ac enillodd ei ddoethuriaeth o Brifysgol Friedrich Wilhelm ym 1922. Wedi i'r Natsïaid gipio grym ym 1933, aeth Szilárd i Fienna, ac ym 1934 i Lundain. Ymunodd ag adran ffiseg ysbyty athrofaol St Bartholomew's, a chyda T. A. Chalmers datblygodd y dull cyntaf o ddatgysylltu isotopau o elfennau ymbelydrol artiffisial.

Aeth Szilárd i'r Unol Daleithiau ym 1937 ac addysgodd ym Mhrifysgol Columbia. Ym 1939, ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd, llwyddodd Szilárd a Eugene Wigner i ddwyn perswâd ar Albert Einstein i hysbysu llywodraeth yr Unol Daleithiau am ddichonoldeb yr adwaith cadwynol niwclear, ac ysgrifennodd Szilárd lythyr, a arwyddwyd gan Einstein, i'r Arlywydd Franklin D. Roosevelt yn erfyn arno i ddatblygu'r bom atomig. O 1942 hyd at ddiwedd y rhyfel bu Szilárd yn arwain ymchwil niwclear ym Mhrifysgol Chicago, gan gynnwys cynorthwyo Enrico Fermi i adeiladu'r adweithydd niwclear cyntaf. Ym 1946 penodwyd Szilárd yn athro bioffiseg ym Mhrifysgol Chicago.

Wedi diwedd y rhyfel, ymgyrchodd Szilárd dros allu heddychlon yr atom a chyfyngiadau rhyngwladol ar arfau niwclear. Szilárd oedd un o sefydlwyr y Bulletin of Atomic Scientists ym 1945, a derbyniodd wobr Atoms for Peace ym 1959. Sefydlodd y Council for a Livable World ym 1962. Bu farw Leó Szilárd yn La Jolla, Califfornia, yn 66 oed.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Leo Szilard. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Mawrth 2021.