Lead Belly

canwr gwerin a'r felan o UDA

Cerddor gwerin a'r felan o Americanwr oedd Huddie William Ledbetter (/ˈhjdi/; 20 Ionawr 18896 Rhagfyr 1949). Roedd ganddo lais cryf ac yn feistr ar ganu'r gitâr ddeuddeg-tant; roedd yn nodedig am gyflwyno sawl cân werin safonol, a'u poblogeiddio dros nos. Ond mae'n fwyaf adnabyddus dan yr enw Lead Belly. Er i'r ffurf "Leadbelly" gael ei defnyddio'n aml,[1] ysgrifennodd ef ei hun "Lead Belly" a dyna'r sillafiad sydd ar ei garreg fedd[2][3] a'r sillafiad a ddefnyddir gan y Lead Belly Foundation.[4]

Lead Belly
FfugenwLead Belly, Walter Boyd Edit this on Wikidata
GanwydHuddie William Ledbetter Edit this on Wikidata
20 Ionawr 1888, 29 Ionawr 1885 Edit this on Wikidata
Louisiana Edit this on Wikidata
Bu farw6 Rhagfyr 1949 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Man preswylLouisiana Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaethgitarydd, canwr, artist stryd, accordionist, cyfansoddwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Midnight Special and Other Southern Prison Songs Edit this on Wikidata
Arddully felan, canu gwlad Edit this on Wikidata
PriodMartha Promise Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Neuadd Enwogion y Grammy, Rock and Roll Hall of Fame Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.leadbelly.org/ Edit this on Wikidata
llofnod

Treuliodd ei fywyd cynnar yn crwydro goror Louisiana a Texas gan ddysgu traddodiadau cerddorol yr Americanwyr duon, yn enwedig y felan a chaneuon gwaith. Cafodd ei garcharu teirgwaith, y tro cyntaf am lofruddiaeth. Daeth i sylw'r byd drwy John ac Alan Lomax a fu'n gynghorwyr a rheolwyr iddo. Ni chafodd Lead Belly fawr o lwyddiant ariannol yn ystod ei fywyd, ond parhaodd i deithio a chanu ar draws yr Unol Daleithiau. Perfformiodd mewn clybiau nos Efrog Newydd yn y 1940au ac ar ddiwedd ei oes fe deithiodd i Ffrainc. Bu farw Lead Belly heb yr un ddoler.

Y rhan fwyaf o'r amser, canai'r gitâr ddeuddeg-tant ond roedd hefyd yn medru canu'r piano, y mandolin, yr harmonica, y ffidil a'r windjammer (acordion diatonig).[5] Mewn rhai o'i recordiau fe ganodd tra'n clapio'i ddwylo neu guro'i droed. Recordiodd ganeuon o sawl math o gerddoriaeth ac amrywiaeth o themâu, gan gynnwys yr emynau hwyl; caneuon y blŵs am ferched, yfed, y carchar, a hiliaeth; a chaneuon gwerin am lafur, cowbois, morwyr, gyrru gwartheg, a dawnsio. Ysgrifennodd hefyd ganeuon am bobl yn y newyddion, megis Franklin D. Roosevelt, Adolf Hitler, Jean Harlow, Jack Johnson, Howard Hughes, a'r Scottsboro Boys.

O ganlyniad i'w ddawn naturiol, ei repertoire eang a'i fywyd treisgar, daeth Lead Belly yn un o gerddorion chwedlonol ac arloesol y felan, megis Robert Johnson a Blind Lemon Jefferson. Bu ganddo ddylanwad rhyfeddol ar gerddoriaeth werin a phoblogaidd y 20g. Cafodd ei ynydu i'r Rock and Roll Hall of Fame ym 1988 a'r Louisiana Music Hall of Fame yn 2008.

Bywgraffiad golygu

Bywyd cynnar golygu

 
Cerdyn cofrestru milwrol Lead Belly, tua 1942.

Ganwyd Huddie William Ledbetter ar Blanhigfa Jeter ger Mooringsport, Louisiana, naill ai yn Ionawr 1888 neu 1889. Cofnodir bachgen 12 mlwydd oed o'r enw "Hudy Ledbetter", ganwyd Ionawr 1888, gan gyfrifiad cenedlaethol 1900, a mae'i oedran a nodir yng nghyfrifiadau 1910 a 1930 yn cyfateb i enedigaeth ym 1888. Cofnodir ei oed yn 51 yng nghyfrifiad 1940, gyda gwybodaeth gan ei wraig Martha. Fodd bynnag, pan gofrestrodd Ledbetter â'r rhestr filwrol yn Ebrill 1942 fe ysgrifennodd taw 23 Ionawr 1889 oedd ei ddyddiad geni a Freeport, Louisiana, oedd man ei eni. Y dyddiad hwnnw a geir ar ei garreg fedd.

Ledbetter oedd yr ieuengaf o ddau o blant a anwyd i Wesley Ledbetter a Sallie Brown. Mae'n debyg taw "HYEW-dee" neu "HUGH-dee" oedd ynganiad ei enw bedydd.[6] Fe'i glywir yn dweud "HYEW-dee" ar y trac "Boll Weevil," ar yr albwm Lead Belly Sings for Children (Smithsonian Folkways).[7] Bu ei rieni yn cyd-fyw am nifer o flynyddoedd cyn iddynt briodi ar 26 Chwefror 1888. Symudodd y teulu i Swydd Bowie, Texas, pan oedd Huddie yn bum mlwydd oed.

Erbyn 1903, roedd Huddie eisoes yn "musicianer",[6] canwr a gitarydd o fri. Perfformiodd ar gyfer cynulleidfaoedd yn St. Paul's Bottoms, yr ardal golau coch yn Shreveport gerllaw. Dechreuodd datblygu ei arddull ei hun ar ôl iddo glywed gwahanol ddylanwadau cerddorol ar Fannin Street, rhesiad o salwnau, puteindai, a neuaddau dawns yn y Bottoms, a elwir heddiw yn Ledbetter Heights.

Yn ôl cyfrifiad 1910, bu "Hudy" Ledbetter a'i wraig gyntaf, Aletha "Lethe" Henderson, yn byw drws nesaf i'w rieni yn Swydd Harrison, Texas. Cofnodir taw 19 oedd oed Aletha, a buont yn briod am un flynedd, ond yn ôl ffynonellau eraill roedd Aletha y 15 oed pan briodasant ym 1898. Yn Texas y derbynodd Ledbetter ei offeryn cerdd cyntaf, pan roddwyd acordion iddo gan ei ewythr Terrell. Yn ei ugeiniau cynnar roedd Ledbetter yn dad i ddau blentyn o leiaf. Gadawodd ei gartref i geisio ennill arian yn gerddor a labrwr.

 Yn sgil suddo'r Titanic yn Ebrill 1912, cyfansoddodd ei gân gyntaf, "The Titanic",[8] a honno ar y gitâr ddeuddeg-llinyn, a ddaeth yn ddiweddarach ei brif offeryn. Canodd y gân tra'n berfformio gyda Blind Lemon Jefferson (1897-1929) yn Dallas a'i chyrion. Sonir y gân am y paffiwr du Jack Johnson yn cael ei atal rhag deithio ar y Titanic oherwydd lliw ei groen, yn y llinellau: "Jack Johnson tried to get on board. The Captain, he says, 'I ain't haulin' no coal!' Fare thee, Titanic! Fare thee well!" Roedd yn rhaid i Ledbetter hepgor y geiriau hyn tra'n canu o flaen cynulleidfaoedd gwyn. Mewn gwirionedd mae'n bosib i Jack Johnson gael ei wrthod o fordaith am resymau hiliol, ond nid y Titanic oedd y llong honno.[6]

Ei gyfnod yn y carchar golygu

Ym 1915, cafwyd Ledbetter yn euog o gario gwn a'i ddedfrydu i weithio â'r criw cadwyn yn Swydd Harrison. Llwyddodd i ddianc a chael gwaith yn Swydd Bowie dan y ffugenw Walter Boyd. Yn Ionawr 1918 cafodd ei garcharu yn yr Imperial Ffarm (a elwir bellach yn Central Unit)[9] yn Sugar Land, Texas, am iddo ladd un o'i berthnasau, Will Stafford, mewn ffrae dros ferch. Mae'n bosib taw yno fe'i glywodd am y tro cyntaf y gân draddodiadol "Midnight Special".[10] Derbyniodd bardwn ym 1925 ar ôl iddo gyfansoddi cân yn ymofyn i'r Llywodraethwr Pat Morris Neff i'w ryddhau, gan iddo dreulio saith mlynedd yn y carchar, y cyfnod lleiaf posib o'i ddedfryd 7-35 mlynedd. Llwyddodd i apelio at ffydd gref Neff, ynghyd â'i ymddygiad da yn y carchar gan gynnwys adlonni'r gwarchodwyr a'i gyd-garcharorion. Roedd yn dystiolaeth o'i ddawn perswâd, gan i Neff ymgyrchu ar addewid i beidio â phardynu carcharorion, er hwnnw oedd yr unig gyfle iddynt gael eu rhyddhau'n gynnar gan nad oedd parôl yn y mwyafrif o garchardai'r De. Yn ôl Charles K. Wolfe a Kip Lornell, yn eu llyfr The Life and Legend of Leadbelly (1999), gwahoddai gwesteion i'r carchar am bicnic Sul yn aml gan Neff i glywed Ledbetter yn canu.

 
Ffotograff a dynnwyd gan Alan Lomax o garcharorion Angola, a Lead Belly yn y tu blaen.

Pum mlynedd yn hwyrach fe gyhuddwyd Ledbetter o geisio lladd dyn gwyn a gafodd ei drywanu gan Ledbetter, ac ar ôl treial diannod cafodd ei ddanfon i Fferm Carchar Angola yn Louisiana. Cafodd ei "ddarganfod" yno tair blynedd yn ddiweddarach gan yr astudwyr llên gwerin John Lomax a'i fab Alan.[11]

Gwnaeth Ledbetter argraff ddwfn ar John ac Alan, gyda'i lais tenor soniarus a'i stôr helaeth o ganeuon gwerin. Recordiodd Lomax a'i fab berfformiadau gan Ledbetter ar ddisg alwminiwm ar gyfer Llyfrgell y Gyngres ym 1933. Dychwelant i'r carchar yng Ngorffennaf 1934 gyda chyfarpar newydd a recordiwyd cannoedd o ganeuon. Recordiodd ple gan Ledbetter ar ochr arall o'i gân "Goodnight Irene", a ddaethpwyd y deisyfiad hwn i'w ryddhau gan y ddau Lomax i'r Llywodraethwr Oscar K. Allen. Rhyddhawyd Ledbetter ar 1 Awst, wedi iddo dreulio bron y lleiafswm o'i ddedfryd.

Yn ddiweddarach, ysgrifennodd swyddog o'r carchar at John Lomax gan wadu taw dawn gerddorol Ledbetter oedd y rheswm dros ei ryddhau. Yn ôl cofnodion, roedd Ledbetter yn gymwys i'w ryddhau'n gynnar oherwydd ei ymddygiad da yn Angola. Fodd bynnag,credai Ledbetter a'r ddau Lomax taw'r recordiad a roddant i'r llywodraethwr oedd i ddiolch am ei ryddid.

Ei lysenw, "Lead Belly" golygu

Mae yna nifer o wahanol straeon am sut cafodd Ledbetter y llysenw "Lead Belly", ond mae'n debyg iddo ei ennill tra yn y carchar. Honna rhai i'w gyd-garcharorion ei alw'n "Lead Belly" gan chwarae ar ei gyfenw i ddisgrifio'r dyn caled a chydnerth. Dywed iddo gael ei drywanu yn ei wddf gan garcharor arall yn Angola, a cerddodd Ledbetter bant o'r ysgarmes gyda chraith bu bron iddo ladd yr ymosodwr gyda chyllel ei hun yn yr ysgarmes. Gadawodd craith ar wddf Ledbetter, a fu'n hwyrach yn gorchuddio â bandana. Chwedl arall, fe'i urddwyd yn "Lead Belly" am iddo gael ei saethu yn y stumog gan haels breision (buckshot).[12] Honna damcaniaeth arall bod yr enw yn cyfeirio at ei allu i yfed gwirod golau lleuad (moonshine). Credai'r canwr Big Bill Broonzy bod y llysenw yn disgrifio arfer Ledbetter o orwedd yn y cysgod tra'r oedd y criw cadwyn i fod i weithio, "gyda phlwm yn bwysau wrth ei stumog".[13] Gall yr enw hyd yn oed fod yn llurguniad syml o'i gyfenw mewn acen y De. Beth bynnag oedd y tarddiad, fe fabwysiadodd Lead Belly yn ffugenw tra'n perfformio.

 
Huddie Ledbetter a Martha Promise Ledbetter yn Wilton, Connecticut, Chwefror 1935.

Bywyd ar ôl carchar golygu

Gadawodd Lead Belly y carchar yn ystod y Dirwasgiad Mawr, ac roedd swyddi'n brin felly. Roedd angen iddo weithio'n rheolaidd neu allai cael ei ddanfon yn ôl i'r carchar, felly ym Medi 1934 fe ofynnodd i John Lomax ei hurio'n yrrwr. Am dri mis, teithiodd Lead Belly gyda John ar draws De'r Unol Daleithiau yn casglu caneuon gwerin. (Roedd Alan Lomax yn sâl a ni ddaeth ar y daith hon â'i dad.)

Yn Rhagfyr fe gymerodd rhan mewn smoker (sesiwn canu grŵp) mewn cyfarfod y Modern Language Association yng Ngholeg Bryn Mawr ym Mhensylfania, tra'r oedd John Lomax yn traddodi darlith yno. Disgrifiwyd Lead Belly gan y wasg fel carcharor a ganodd i ennill ei ryddid. Ar Ddydd Calan 1935, cyrhaeddodd y cerddor a'r ysgolhaig Ddinas Efrog Newydd ac yno bu Lomax yn cwrdd â'i cyhoeddwr Macmillan am gasgliad newydd o ganeuon gwerin. Roedd y papurau newydd yn awyddus i ysgrifennu am y "canwr-garcharor", a Lead Belly oedd yn destun i un o ffilmiau newyddion cylchgrawn Time. Enillodd Lead Belly glod ac enw ond nid cyfoeth.

Yr wythnos ganlynol, dechreuodd recordio ar gyfer yr American Record Corporation, ond nid oedd y rhain yn llwyddiannau masnachol. Recordiodd dros 40 o "ochrau" ar gyfer ARC, ond dim ond pump ohonynt a gafodd eu cyhoeddi. Mae'n bosib byddai'r recordiau wedi gwerthu mwy os oedd ARC wedi cyhoeddi'i ganeuon gwerin, yn hytrach na'i ganeuon blŵs yn unig. Fel nifer o gerddorion tlawd, enillodd Lead Belly y mwyafrif helaeth o'i incwm drwy berfformio ar daith ac nid o werthu ei recordiau.

Yn Chwefror 1935, priododd ei gariad, Martha Promise, a ddaeth o Louisiana i fyw gyda fe.

Treuliodd y mis hwnnw yn recordio'r cyfan o'i ganeuon a nifer o ganeuon eraill yr Americanwyr Affricanaid yn ogystal â chyfweliadau am ei fywyd gydag Alan Lomax ar gyfer llyfr amdano. Ni chafodd nifer o gyfleoedd i berfformio mewn cyngherddau yn y cyfnod hwn. Ym Mawrth 1935, aeth Lead Belly a John Lomax ar daith ddarlithio am ddwy wythnos i golegau a phrifysgolion yn y Gogledd-ddwyrain, gan orffen yn Harvard.

Ar ddiwedd y mis, penderfynodd John Lomax i alw terfyn ar ei waith gyda Lead Belly a rhodd arian iddo a'i wraig i ddychwelyd i Louisiana ar fws. Rhodd i Martha enillion ei gŵr dros dri mis, fesul rhandal ar yr esgus fyddai Lead Belly yn gwario'r holl arian ar ddiod petai'n ei dderbyn i gyd ar unwaith. O Louisiana, llwyddodd Lead Belly i erlyn Lomax am yr holl swm a hefyd i'w ryddhau o'i gontract. Ffrae chwerw ydoedd, er i Lead Belly ysgrifennu at Lomax yn ystod yr achos a chynnig iddynt cydweithio unwaith eto. Enillodd Lead Belly yr achos, a daeth diwedd i berthynas y ddau ddyn. Yn nhymor yr hydref 1936, cyhoeddodd Lomax a'i fab y llyfr Negro Folk Songs As Sung by Lead Belly ond methodd i werthu.

Dychwelodd Lead Belly i Ddinas Efrog Newydd ar ben ei hun yn Ionawr 1936 i geisio adfer ei yrfa. Perfformiodd dwywaith y diwrnod yn yr Apollo Theater yn Harlem yn ystod adeg y Pasg gan wisgo dillad rhesog y carcharor, i ail-greu'r ffilm newyddion ohono sy'n adrodd hanes ei ddarganfyddiad gan Lomax.

Cyhoeddodd cylchgrawn Life erthygl dair-tudalen dan y teitl "Lead Belly: Bad Nigger Makes Good Minstrel" yn rhifyn 19 Ebrill 1937. Roedd yn cynnwys delwedd liw ohono yn eistedd ar sachau o rawn ac yn canu'i gitâr,[6] delwedd o Martha Promise (ei reolwr, yn ôl yr erthygl), ffotograffau o'i ddwylo yn plycio a strymian (gyda'r pennawd "these hands once killed a man"), a ffotograffau o'r Llywodraethwr Neff a Phenydfa Daleithiol Texas. Honna'r erhygl taw llais Lead Belly oedd y rheswm dros ei ddau bardwn, a chlo'r testun gyda'r geiriau "he... Mai well be on the brink of a new and prosperous period".

Methodd Lead Belly i ennyn brwdfrydedd cynulleidfaoedd Harlem. Yn lle hynny, cafodd llwyddiant mewn cyngherddau a budd-berfformiadau ar gyfer selogion cerddoriaeth werin a chefnogwyr yr adain chwith. Datblygodd arddull ei hun o ganu ac egluro'i stôr gerddorol yng nghyd-destun diwylliant y Deheuwyr croenddu, wedi iddo ddysgu'r hanes hwn mewn darlithoedd Lomax. Roedd yn arbennig o lwyddiannus gyda'i stoc o ganeuon gêm i blant (pan oedd yn ddyn ifanc yn Louisiana fe fu'n canu'n rheolaidd i bartïon pen-blwydd plant yn y gymuned ddu). Cafodd Lead Belly ei edmygu a'i foli'n arwr gan y nofelydd Richard Wright yng ngholofnau'r Daily Worker, papur y Blaid Gomiwnyddol. Magodd y ddau ddyn gyfeillgarwch, er roedd Lead Belly yn ôl rhai heb farnau gwleidyddol, neu yn gefnogwr i'r Gweriniaethwr cymedrol Wendell Willkie gan iddo cyfansoddi cân ar gyfer ei ymgyrch arlywyddol. Ar y llaw arall, ysgrifennodd hefyd y gân "Bourgeois Blues", a chanddi geiriau radicalaidd ac adain-chwith.

 
Lead Belly yn canu'r acordion, tua 1942.

Ym 1939, roedd Lead Belly yn ôl yn y ddalfa ar gyhuddiad o ymosodiad ar ôl iddo drywanu dyn mewn cweryl ym Manhattan. Penderfynodd Alan Lomax (24 oed) i adael yr ysgol raddedig er mwyn helpu hen gyfaill ei dad, a chododd yr arian ar gyfer ffïoedd cyfreithiol Lead Belly. Cafodd ei ryddhau o'r carchar ym 1940-41. Ymddangosodd Lead Belly yn rheolaidd ar sioe radio Alan Lomax a Nicholas Ray ar CBS, Back Where I Come From. Perfformiodd hefyd mewn clybiau nos gyda Josh White, a daeth yn un o hoelion wyth y sîn werin ac yn gyfaill i Sonny Terry, Brownie McGhee, Woody Guthrie, a Pete Seeger, oedd i gyd yn berfformwyr ar Back Where I Come From. Ar ddechrau'r 1940au fe recordiodd gydag RCA, Llyfrgell y Gyngres, a Moe Asch (a sefydlodd Folkways Records) ac ym 1944 aeth i Galiffornia i recordio ar gyfer Capitol Records. Bu'n aros gyda gitarydd stiwdio ar Merrywood Drive yn Laurel Canyon.

Lead Belly oedd y cerddor blŵs cyntaf o'r Unol Daleithiau i fod yn boblogaidd yn Ewrop.

Darlledodd Lead Belly yn rheolaidd ar orsaf radio WNYC yn Efrog Newydd ym 1949, ar sioe nos Sul Henrietta Yurchenco. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn teithiodd i Ffrainc i dychwyn ei gyfres gyntaf o gyngherddau yn Ewrop, ond aeth yn sâl cyn ei chwblhau a chafodd diagnosis o sglerosis ochrol amyotroffig (ALS) neu glefyd niwronau motor. Ei cyngerdd olaf oedd ym Mhrifysgol Texas yn Austin i dalu teyrnged i'w gyn-gynghorwr, John Lomax, fu farw ym 1948. Perfformiodd Martha hefyd yn Austin, gan ganu emynau ysbrydol gyda'i gŵr.

Bu farw Lead Belly ar 6 Rhagfyr 1949 yn Ninas Efrog Newydd a chafodd ei gladdu ym mynwent Eglwys Babyddol Shiloh ym Mooringsport, Louisiana, 8 mile (13 km) i orllewin Blanchard, ym Mhlwyf Caddo. Codwyd cerflun ohono gyferbyn â Llys Plwyf Caddo yn Shreveport.

Techneg gerddorol golygu

 
Ffotograff o Lead Belly a dynnwyd gan Alan Lomax yn y 1940au.

Galwodd Lead Belly ei hunan yn "Frenin y Gitâr Ddeuddeg-Llinyn", ac er iddo ddefnyddio offerynnau eraill fel yr acordion, y ddelwedd ohono sy'n para yw Lead Belly yn drin ei Stella anferth.[14] Roedd gan y gitâr ddeuddeg-llinyn hwn raddfa hirach na'r gitâr safonol, tiwnwyr rhychog, ffurf "ysgol" tu mewn iddo i atgyfnerthu'r corff, a chynffon arddull-trapîs i wrthsefyll codi'r bont.

Canodd Lead Belly ei gitâr gyda phlectrwm bys, a phlectrwm bawd am linell fas ac weithiau i strymio. Mewn cyfuniad â chyweiriad isel a llinynnau trymion, ceir sain debyg i biano mewn nifer o'i recordiau. Mae'n debyg taw cyweirio ar i lawr y drefn safonol a wnai Lead Belly, gan diwnio'r llinynnau o'u cymharu a'i gilydd, ac felly newidiodd y nodau wrth i'r llinynnau dreulio. Cafodd arddull canu'r gitâr ddeuddeg-llinyn ei phoblogeiddio gan Pete Seeger, a gynhyrchodd LP a llyfr i addysgu dechneg Lead Belly.

Mewn rhai o'i recordiau, mae Lead Belly yn lleisio "Hahh!" rhwng y penillion, er enghraifft yn y caneuon "Looky Looky Yonder", "Take This Hammer", "Linin' Track", a "Julie Ann Johnson". Eglurodd y rhoch hon yn y gân "Take This Hammer": "Pob amser dyweda'r dynion, 'Haah', fe gwympa'r morthwyl. Mae'r morthwyl yn canu, a 'dan ni'n codi'r morthwyl ac yn canu."[15] Clywir y sŵn "haah" mewn llafarganau a chaneuon gwaith gan gandy dancers, sef gweithwyr rheilffyrdd y De.

Ei ddylanwad golygu

Câi gwaith Lead Belly ei berfformio neu ddynwared gan nifer fawr o gerddorion o sawl math, gan gynnwys Bob Dylan, Brian Wilson, Johnny Rivers ("Midnight Special"), Delaney Davidson, Tom Russell, Lonnie Donegan, Bryan Ferry ("Goodnight, Irene"), the Beach Boys ("Cotton Fields"), Creedence Clearwater Revival ("Midnight Special", "Cotton Fields"), Elvis Presley,[16] ABBA, Pete Seeger, the Weavers,[17] Harry Belafonte, Frank Sinatra, Nat King Cole, the Animals, Jay Farrar, Johnny Cash, Tom Petty, Dr. John, Ry Cooder, Davy Graham, Maria Muldaur, Rory Block, Grateful Dead, Gene Autry, Odetta, Billy Childish (a enwodd ei fab Huddie), Mungo Jerry, Paul King, Van Morrison, Michelle Shocked, Tom Waits ("Goodnight, Irene"), Scott H. Biram, Ron Sexsmith, British Sea Power, Rod Stewart, Ernest Tubb, Nick Cave and the Bad Seeds, Ram Jam, Spiderbait ("Black Betty"), Blind Willies ("In the Pines"), the White Stripes ("Boll Weevil"), the Fall, Hole, Smog, Old Crow Medicine Show, Meat Loaf, Ministry, Raffi, Rasputina, Rory Gallagher ("Out on the Western Plains"), the Sensational Alex Harvey Band, Deer Tick, Hugh Laurie, X, Bill Frisell, Koerner, Ray & Glover, Red Hot Chili Peppers, Nirvana, Meat Puppets, Mark Lanegan, WZRD ("Where Did You Sleep Last Night"), Keith Richards, a Phil Lee ("I Got Stripes").[18]

Mae nifer o'r gynulleidfa roc fodern yn gyfarwydd â Lead Belly o ganlyniad i fersiwn Nirvana o'r gân "Where Did You Sleep Last Night" o gyngerdd teledu MTV.[19] Cyn iddo ganu, trafodai Kurt Cobain ei ymgais i berswadio David Geffen i brynu gitâr Lead Belly ar ei gyfer. Yn ei nodiadau, ysgrifennodd Cobain taw Last Session Vol. 1 gan Lead Belly oedd un o'r 50 o albymau a ddylanwadodd ar arddull Nirvana.[20]

Disgyddiaeth golygu

Recordiadau Llyfrgell y Gyngres golygu

Cafodd recordiadau Llyfrgell y Gyngres, a wnaed gan John ac Alan Lomax rhwng 1934 a 1943, eu rhyddhau mewn chwe chyfrol gan Rounder Records yn y 1990au.

  • Midnight Special (1991)
  • Gwine Dig a Hole to Put the Devil In (1991)
  • Let It Shine on Me (1991)
  • The Titanic (1994)
  • Nobody Knows the Trouble I've Seen (1994)
  • Go Down Old Hannah (1995)
  • "You Don't Know My Mind" (2002), record ychwanegol ar label Acrobat yn y DU

Recordiadau Folkways golygu

Cafodd recordiadau Folkways, a wnaed gan Moses Asch rhwng 1941 a 1947, eu rhyddhau mewn tair cyfrol gan Smithsonian Folkways:

  • Where Did You Sleep Last Night, Lead Belly Legacy, cyfrol 1 (1996)
  • Bourgeois Blues, Lead Belly Legacy, cyfrol 2 (1997)
  • Shout On, Lead Belly Legacy, cyfrol 3 (1998)

Rhyddhawyd sawl detholiad arall gan Smithsonian Folkways:

  • Leadbelly Sings Folk Songs (1989)
  • Lead Belly's Last Sessions (set focs 4-CD) (1994), recordiwyd ym 1948 yn Efrog Newydd;[21] ei unig recordiadau masnachol ar dâp magnetig
  • Lead Belly Sings for Children (1999), sy'n cynnwys yr albwm Folkways o 1960 Negro Folk Songs for Young People yn gyfan; pump o'r chwe thrac o'r albwm o 1941 Play Parties in Song and Dance as Sung by Lead Belly, recordiwyd ar gyfer Moses Asch; caneuon eraill a recordiwyd ar gyfer Asch rhwng 1941 a 1948; ac un trac nas cyhoeddir o'r blaen, darllediad radio o "Take This Hammer"
  • Folkways: The Original Vision, Woody Guthrie a Lead Belly (2004), fersiwn eangach o ddetholiad 1989
  • Lead Belly: The Smithsonian Folkways Collection (2015)[22][23]

Recordiadau byw golygu

  • Leadbelly Recorded in Concert, University of Texas, Austin, Mehefin 15, 1949 (1973, Playboy Records PB 119)

Detholiadau eraill golygu

  • Huddie Ledbetter's Best (1989, BGO Records), sy'n cynnwys recordiadau Capitol Records o 1944
  • King of the 12-String Guitar (1991, Sony/Legacy Records), casgliad o ganeuon y felan a baledi'r carchar a recordiwyd ym 1935 yn Efrog Newydd ar gyfer yr American Record Company
  • Private Party Tachwedd 21, 1948 (2000, Document Records), sy'n cynnwys perfformiad o barti preifat ym 1948 ym Minneapolis
  • Take This Hammer, cyfres When the Sun Goes Down, cyfrol 5 (2003, RCA Victor/Bluebird Jazz), casgliad CD o'r 26 o ganeuon a recordiodd Lead Belly ar gyfer Victor Records ym 1940, a hanner ohonynt gyda'r Golden Gate Jubilee Quartet (ceir rhyw hanner o'r recordiadau hyn ar LP a ryddhawyd gan RCA Victor ym 1968)
  • A Leadbelly Memorial, Vol II (1963, Stinson Records, SLP 19), finyl coch
  • The Definitive Lead Belly (2008, Not Now Music), detholiad ôl-syllol sy'n cynnwys 50 o ganeuon ar ddau CD
  • Lead Belly: The Smithsonian Folkways Collection. 2015. (llyfr a recordiadau) Washington, DC: Smithsonian Folkways.

Cyfeiriadau golygu

  1. Mynna'r Encyclopaedia Britannica, er enghraifft, ddefnyddio'r ffurf Leadbelly.
  2. Huddie William "Lead Belly" Ledbetter ar Find a Grave
  3. "Delta Blues.net". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-09-19. Cyrchwyd 22 Medi 2010.
  4. "Lead Belly Foundation". LeadBelly.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-01-23. Cyrchwyd 22 Medi 2010.
  5. Snyder, Jared (Summer 1994). "Leadbelly and His Windjammer: Examining the African American Button Accordion Tradition". American Music 12 (2): 148–166. JSTOR 3052520.
  6. 6.0 6.1 6.2 6.3 Empty citation (help)
  7. "Lead Belly Sings for Children". Spotify.
  8. "The Titanic" by Leadbelly ar YouTube
  9. Perkinson, Robert (2010).
  10. Lomax, Alan, ed.
  11. Gilliland, John (May 18, 1969). "Show 18 – Blowin' in the Wind: Pop Discovers Folk Music. Part 1". Pop Chronicles. UNT Digital Library, University of North Texas, Digital.library.unt.edu. Cyrchwyd September 22, 2010.
  12. The Mudcat Cafe.
  13. Terkel, Studs (2005). And They All Sang. New Press.
  14. Ohara, Marcus (November 22, 2009). "THE UNIQUE GUITAR BLOG: The Stella 12 String Guitar".
  15. YouTube.
  16. Presley, Elvis; Cash, Johnny. "Together: Elvis Presley/Johnny Cash". AllMusic. Cyrchwyd 2012-03-12. More than one of |author1= a |last= specified (help); More than one of |author2= a |last2= specified (help)[dolen marw]
  17. Gilliland, John (1969). "Play A Simple Melody: American Pop Music in the Early Fifties. Part 1" (audio). Pop Chronicles (en). Digital.library.unt.edu.CS1 maint: ref=harv (link)
  18. "Leadbelly Covers [mixtape]". Archifwyd o'r gwreiddiol ar October 4, 2013. Cyrchwyd 8 Mai 2013. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  19. ChristForte (January 10, 2011). "Where Did You Sleep Last Night".
  20. "Top 50 by Nirvana". Cyrchwyd 8 Mai 2013.
  21. Discogs – Leadbelly's Last Sessions, vol. 1, 2 vinyl LPs, 1953 Folkways Records (FP 241) US
  22. Mazor, Barry (February 25, 2015). "Going From Prison Zero to Folk Hero". Wall Street Journal. t. D5. More than one of |last1= a |last= specified (help); More than one of |first1= a |first= specified (help)
  23. Discogs – The Smithsonian Folkways Collection – 2015 remastered compilation, 5 CDs, Smithsonian Folkways Recordings (SFW 40201) US

Ffynonellau golygu

  • Gwyn, Gary; Stuart, David; Aviva, Elyn (2001). Music in Our World. t. 196. ISBN 0-07-027212-3.
  • Lornell, Kip; Wolfe, Charles (1999). The Life and Legend of Leadbelly. Da Capo Press.

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: