Leah Bracknell

actores a aned yn 1964

Roedd Alison Rosalind Bracknell (geni 12 Gorffennaf 1964 - 16 Medi 2019), oedd yn cael ei hadnabod yn broffesiynol fel Leah Bracknell, yn actores Seisnig, sy'n adnabyddus am ei rôl fel Zoe Tate yn opera sebon ITV Emmerdale (1989-2005). Roedd hi hefyd yn athro cymwysedig gydag Ysgol Ioga Prydain ac roedd yn dylunio ac yn cynhyrchu ei gemwaith ei hun[1].

Leah Bracknell
GanwydAlison Rosalind Bracknell Edit this on Wikidata
12 Gorffennaf 1964 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw16 Medi 2019 Edit this on Wikidata
Worthing Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Webber Douglas Academy of Dramatic Art Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Cafodd Bracknell ei eni yn Westminster, Llundain yn ferch i'r cyfarwyddwr teledu David Ian Bracknell (1932-1987) a'r actores Tsieineaidd Li-Er Hwang. Cafodd ei magu yn Llundain, Rhydychen, Seland Newydd a Ffiji.

Gyrfa golygu

Ymddangosodd Bracknell ar y teledu am y tro cyntaf ym 1976 fel plentyn 12 oed. Bu yn y rhaglen teledu The Chiffy Kids a oedd yn cael ei chyfarwyddo gan ei thad.

Mynychodd Academi Celf Drama Webber Douglas i hyfforddi i fod yn actor. O fewn ddwy flynedd o ymadael a'r academi cafodd rhan yn opera sebon ITV Emmerdale yn chware ran y milfeddyg Zoe Tate. Bu yn y rhaglen am 16 mlynedd cyn ymadael a'r sioe yn 2005. Ei chymeriad oedd y lesbiad gyntaf mewn opera sebon o wledydd Prydain ac yn un o'r cymeriadau hoyw mwyaf hyd hoedlog ar raglen o'r fath.

Enillodd Bracknell gwobr am yr 'Ymadawiad Gorau' yng Ngwobrau Sebon Prydain ym mis Mai 2006 am ei olygfa olaf yn Emerdale.

Ar ôl gadael Emmerdale, dychwelodd i'r theatr gan ymddangos fel Mrs Manningham yn Gaslight a Strangers on a Train. Yn 2008, ymunodd â chynhyrchiad teithiol Theatreworks Turn of the Screw i chwarae'r rôl arweiniol, sef athrawes preifat. Mae hi hefyd wedi ymddangos yn y dramâu teledu Judge John Deed, Casualty 1907 ac yn yr opera sebon canol prynhawn Doctors. Ym mis Mehefin 2007, ymunodd â chast rhaglen gyfres ITV The Royal Today fel y Fetron Jenny Carrington.

Bywyd personol golygu

Mae hi'n byw yn Worthing, Sussex gyda'i gŵr Jez Hughes a'i ddwy ferch o'i priodas cyntaf i Lyle Watson[2][3]. Ers gadael Emmerdale mae hi wedi bod yn athro myfyrdod ac ioga [4].

Iechyd golygu

Ym mis Hydref 2016, datgelodd Bracknell ei bod yn dioddef o ganser terfynol yn yr ysgyfaint[5]. Cyrhaeddodd apêl codi arian i dalu am driniaeth arbrofol yn yr Almaen ei darged o £50,000 o fewn tridiau. Gwnaeth ymddangosiadau ar y rhaglenni This Morning a Loose Women lle bu'n trafod ei chanser a'i phenderfyniad i'w ymladd.

Ffilmograffi golygu

[6]

  • The Chiffy Kids (1976)
  • Emmerdale fel Zoe Tate (1989–2005)
  • Judge John Deed fel Doctor Mary Moon (2007)
  • Casualty 1907 fels Mrs Turner (2008)
  • Doctors (2008)
  • The Royal Today fel Matron Jenny Carrington (2008)
  • A Touch of Frost (2010) fel Carolyn Viner
  • DCI Banks (2011) fel Maria
  • A Dark Reflection (2015) fel Isabelle Morris

Cyfeiriadau golygu