Mae Leah Namugerwa (ganwyd 2004) yn ymgyrchydd ifanc o Wganda sy'n gweithredu yn erbyn newid hinsawdd.[1][2] Mae hi'n adnabyddus am arwain ymgyrchoedd plannu coed ac am gychwyn deiseb i orfodi'r gwaharddiad ar fagiau plastig yn Wganda.[3][4] Fe'i hysbrydolwyd i weithredu gan Greta Thunberg, pan ddechreuodd gefnogi streiciau ysgol yn Chwefror 2019 gyda’i chyd-drefnydd Fridays for Future, yn Wganda Sadrach Nirere.[5][6]

Leah Namugerwa
Ganwyd2004 Edit this on Wikidata
Wganda Edit this on Wikidata
DinasyddiaethWganda Edit this on Wikidata
Galwedigaethymgyrchydd, ymgyrchydd hinsawdd, amgylcheddwr Edit this on Wikidata
MudiadFridays for Future Edit this on Wikidata

Siaradodd Namugerwa yn Fforwm Trefol y Byd yn 2020[7] ac roedd yn ddirprwy yr ifanc yn COP25.[8] Mae ei hewythr, Tim Mugerwa hefyd yn amgylcheddwr amlwg yn Wganda.[9] Mae Leah Namugerwas yn aelod o Eglwys Anglicanaidd Wganda.

Gweithredu golygu

Clywodd Namugerwa am Greta Thunberg a'i streic Fridays for Future yn 2018.[10] Yn ddiweddarach, yn 13 oed, cymerodd gamau tebyg wedi iddi wylio adroddiad newyddion lleol am dirlithriadau a llifogydd mewn rhannau gwledig o'i gwlad.[9] Ers hynny mae Namugerwa wedi dod yn eiriolwr hinsawdd ifanc ac yn aelod annatod o Fridays for Future yn Wganda. Ymunodd â Sadrach Nirere, Hilda Flavia Nakabuye, a'i chefnder Bob Motavu i sefydlu'r mudiad sy'n galw ar ddisgyblion ysgol i streicio bob dydd Gwener. Mae hi wedi bod yn cymryd rhan yn wythnosol ers Chwefror 2019, gan alw am fwy o gamau yn erbyn newid hinsawdd, ac mae hi wedi arwain a threfnu deiseb i orfodi'r llywodraeth i wahardd bagiau plastig.[11]

Dathlodd Leah Namugerwa ei phen-blwydd yn 15 oed trwy blannu 200 o goed yn lle trefnu parti pen-blwydd, ac ers hynny mae wedi lansio'r prosiect 'Coed Pen-blwydd', i roi eginblanhigion i'r rhai sy'n dymuno dathlu eu penblwyddi trwy blannu coed.[12] Ei phrif nod yw gweld deddfwriaeth newid hinsawdd gyfredol (Cytundeb Paris 21) yn cael ei orfodi, a denu mwy o sylw i faterion newid hinsawdd.[13]

Trefnodd orymdeithiau ynghyd ag eiriolwyr hinsawdd ifanc eraill i nodi’r streic hinsawdd fyd-eang ar 29 Tachwedd 2020, a glanhawyd glan y llyn ar Draeth Ggaba Kampala hefyd i ddathlu’r diwrnod; roedd Dorothy Nalubega, aelod o grŵp amaethyddol ac amgylcheddol y menywod hefyd yn bresennol.[9] Mae Namugerwa wedi galw’n barhaus ar lywodraeth Wganda i weithredu Cytundeb Hinsawdd Paris yn llawn.

Cyfeiriadau golygu

  1. "The young Ugandan woman making waves as she fights climate change". The Independent (yn Saesneg). 2019-12-28. Cyrchwyd 2020-09-19.
  2. "Uganda's 14-year-old climate activist". www.aljazeera.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-02-15. Cyrchwyd 2020-09-19.
  3. Welle (www.dw.com), Deutsche. "Ugandan teen activist championing birthday trees | DW | 15.05.2020". DW.COM (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-19.
  4. "Leah Namugerwa the Ugandan climate warrior". The Citizen (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-19.
  5. "School Strike for Climate: A day in the life of Ugandan student striker Leah Namugerwa". Earth Day (yn Saesneg). 2019-06-06. Cyrchwyd 2020-09-19.
  6. "Meet Leah Namugerwa: The 15-Year-Old Leading Climate Activism In Uganda". therising.co. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-01-15. Cyrchwyd 2020-09-19.
  7. "Leah Namugerwa | World Urban Forum". wuf.unhabitat.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-01-20. Cyrchwyd 2020-09-19.
  8. ""It's not too late to join the struggle"– say archbishop and teenage climate activist". www.anglicannews.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-19.
  9. 9.0 9.1 9.2 "The young Ugandan woman making waves as she fights climate change". The Independent (yn Saesneg). 2019-12-28. Cyrchwyd 2020-09-19."The young Ugandan woman making waves as she fights climate change". The Independent. 2019-12-28. Retrieved 2020-09-19.
  10. "School Strike for Climate: A day in the life of Ugandan student striker Leah Namugerwa". Earth Day (yn Saesneg). 2019-06-06. Cyrchwyd 2020-09-19."School Strike for Climate: A day in the life of Ugandan student striker Leah Namugerwa". Earth Day. 2019-06-06. Retrieved 2020-09-19.
  11. "Leah Namugerwa". Faces of Climate Change (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-11-18. Cyrchwyd 2020-11-15.
  12. "Leah Namugerwa | World Urban Forum". wuf.unhabitat.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-01-20. Cyrchwyd 2020-09-19."Leah Namugerwa | World Urban Forum" Archifwyd 2021-01-20 yn y Peiriant Wayback.. wuf.unhabitat.org. Retrieved 2020-09-19.
  13. "Meet Leah Namugerwa: The 15-Year-Old Leading Climate Activism In Uganda". therising.co. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-01-15. Cyrchwyd 2020-09-19."Meet Leah Namugerwa: The 15-Year-Old Leading Climate Activism In Uganda" Archifwyd 2021-01-15 yn y Peiriant Wayback.. therising.co. Retrieved 2020-09-19.