Lee Evans

sgriptiwr ffilm a chyfansoddwr a aned yn 1964

Digrifwr stand-up ac actor Seisnig ydy Lee Evans (ganwyd 25 Chwefror 1964, Bryste).

Lee Evans
Ganwyd25 Chwefror 1964 Edit this on Wikidata
Bryste Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • The Billericay School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, digrifwr, actor llais, digrifwr stand-yp, actor llwyfan, actor ffilm, sgriptiwr, cyfansoddwr, actor teledu Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganwyd Lee Evans yn Avonmouth, Bryste. Mynychodd ysgol uwchradd The Billericay School, yn Billericay, Essex. Ar ôl cyfnod fel paffiwr, a dwy flynedd mewn coleg celf yn Essex, penderfynnodd Evans ddilyn gyrfa ei dad yn y busnes adloniant. Symudodd i'r Rhyl yn ei arddegau a chwaraeodd y drymiau mewn band pync a ddisgrifiodd fel crap. Fe gynnigwyd y cyfle i berfformio ar sioe dalent yn yr Unol Daleithiau yn gynnar yn ei yrfa stand-up career. Ef oedd yr unig Sais ar y sioe ac fe enillodd y gystadleuaeth. Fe dreuliodd ei bedair mlynedd cytaf fel digrifwr yn teithio o gwmpas y clybiau dynion gweithio; y pum mlynedd canlynol ar y gylched amgen. Yn degyb i nifer o ddigrifwyr sefydledig, fe ddaeth Evans i'r amlwg yng Ngŵyl Caeredin yn 1988.

Yn 1981, yn 17 oed, fe briododd Heather, ac mae ganddynt ferch, Mollie, a'i ganwyd yn 1994, a chi, Brian. Maent yn byw ger Billericay.

Gyrfa golygu

Cododd Evans i'r amlwg yng ngwledydd Prydain yn yr 1990au.

Sioeau Byw golygu

Mae Evans wedi rhyddau'r sioeau canlynol ar DVD:

Actio golygu

Mae Evans wedi ymddangos mewn amryw o ffilmiau, yn nodedig yn Funny Bones, Mousehunt, There's Something About Mary, The Fifth Element, The Ladies Man, The Martins a The Medallion. Evans oedd llais Train yn ffilm 2005 The Magic Roundabout.

Rhwng 1993 ac 1994 ymddangosodd Evans ar raglen hwyr y nos Channel 4, Viva Cabaret!, fel gwesteiwr a gwastai. Yn 1996, roedd Evans yn seren y rhaglen The World of Lee Evans. Ysgrifennodd rhaglen gomedi sefyllfa yn 2001, So What Now?.

Fe chwaraeodd rôl blaenllaw yn y ffilm gomedi poblogaidd There's Something About Mary yn 1998. Bu'n seren y ffilm Freeze Frame yn 2004, yn ei rôl cyntaf mewn ffilm llym, fe chwaraeodd rôl rhywun paranoid a ddrwgdybwyd o lofruddiaeth. Fe eilliodd ei eiliau a'i wallt er iddo gael ei rybuddio y gall ei eiliau beidio tyfy'n ôl (fe wnaethon nhw dyfy'n ôl). Yn ddiweddar, chwaraeodd Lee y prif gymeriad yn dramodiad ITV o The Adventures of Mr Polly.

Dolenni golygu

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.