Legio III Augusta

Lleng Rufeinig oedd Legio III Augusta. Ffurfiwyd y lleng gan Augustus yn 43 CC. Bu yng ngogledd Affrica yn bennaf, hyd tua 430. Ei symbolau oedd y ceffyl adeiniog Pegasus a'r afr.

Patrwm tarian Legio III Augusta, o ddechrau'r 5g.

Mae'n debyg i'r lleng ymladd dros Augustus a Marcus Antonius ym Mrwydr Philippi yn 42 CC, pan orchfygwyd llofruddion Iŵl Cesar. Yn dilyn y frwydr yma, buont yn ymladd yn Sicilia yn erbyn Sextus Pompeius.

O 30 C.C., bu III Augusta yn nhalaith Affrica. Ni welodd lawer o ymladd yma, ond rhwng tussen 17 a 24 O.C. bu'n ymladd yn erbyn llwythau gwrthryfelgar. Yn 18, dinistriwyd rhan o'r lleng mewn ymosodiad gerila, a chosbwyd y lleng am lwfrdra trwy Decimatio, lle dewisid un milwr o bob deg i gael ei ladd gan y naw arall. Yn ôl Suetonius, rhoddodd Augustus ei hun y gorchymyn.

Yn 45, daeth Galba, a fu'n ddiweddarach yn ymerawdwr am gyfnod byr, yn bennaeth y lleng. Rhoddodd yr ymerawdwr Septimius Severus, oedd yn frodor o Ogledd Affrica, y teitl Pia Vindex (Dialwyr teyrngar) iddynt, oherwydd iddynt ei gefnogi yn ei gais i ddod yn ymerawdwr. Yn 252, ail-grewyd y lleng gan yr ymerawdwrValerian I i ymladd yn erbyn y Berberiaid. Crybwyllir y lleng yn y Notitia Dignitatum, a ddyddir i tua 420. Yn 430, ymosododd y Fandaliaid dan Geiseric ar Ogledd Affrica a'i meddiannu, ac ni cheir sôn am y lleng wedi hynny.