Lleng Rufeinig a ffurfiwyd ar 22 Medi yn y flwyddyn 66 gan yr ymerawdwr Nero oedd y Legio I Italica (ynganiad Lladin: prima italica "(lleng) 1af Eidalaidd"). Ceir cofnodion sy'n tystio i bresenoldeb yr I Italica ar lan afon Daniwb ar ddechrau'r 5g, yn amddiffyn y ffin yno. Baedd oedd arwyddlun y lleng.

Legio I Italica
Enghraifft o'r canlynolLleng Rufeinig Edit this on Wikidata
LleoliadLyon Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Denarius a fathwyd yn 193 gan Septimius Severus, i ddathlu I Italica

Codwyd y lleng, wrth yr enw phalanx Alexandri Magni, i ymgyrchu yn Armenia, ad portas Caspias (hyd Môr Caspia). Gwŷr tal cydnerth, i gyd dros chwe troedfedd o daldra, o dalaith Italia oedd y llengwyr cyntaf. Ond gyrrwyd y lleng i Iudaea oherwydd y gwrthryfel yno ac nid aethant i Armenia. Yn 68 roeddent yn Ngâl ac yn 69, Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr, ar ôl marwolaeth Nero, cawsant yr enw I Italica, a brwydrant dros Vitellius yn ail Brwydr Bedriacum, a enillwyd gan Vespasian. Gyrrodd yr ymerawdwr newydd y I Italica i dalaith Moesia yn 70. Codasant wersyll yn Novae (Svishtov heddiw), ac yno y buont wedyn am ganrifoedd.

Eginyn erthygl sydd uchod am Rufain hynafol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato