Cadwyn o barciau thema i deuluoddd sydd â'u prif ffocws ar y tegan Lego yw Legoland (nod masnach mewn prif lythrennau: LEGOLAND). Nid ydynt yn eiddo llwyr i Grŵp Lego ei hun; yn hytrach, maent yn eiddo i, ac yn cael eu gweithredu, gan y cwmni parciau thema Merlin Entertainments.

Mynedfa Legoland Billund, Denmarc, a agorodd gyntaf yn 1968.

Agorodd y parc thema Legoland cyntaf yn Billund, Denmarc ym 1968.

Roedd parc thema Legoland i'w gael yr Almaen rhwng 1973 a 1976.[1] Roedd wedi'i leoli yn ninas Sierksdorf yng ngogledd yr Almaen. Gwerthwyd y parc yn 1976, a'r safle hwnnw bellach yw Hansa-Park .[2][3]

Y Legoland nesaf i gael ei agor oedd yr un yn Windsor, Lloegr, yn 1996. Ers hynny, mae parciau Legoland eraill wedi agor yn yr Almaen, Japan, Malaysia, Dubai, a'r Unol Daleithiau (California a Florida).

Mae parciau Legoland eraill yn cael eu hadeiladu yn Efrog Newydd (i agor yn 2020) ac yn Ne Korea a Shanghai (i agor yn 2022).

Cyfeiriadau golygu

  1. Der Spiegel, DE, http://www.spiegel.de/spiegel/print/d-40831443.html.
  2. "Hansa Park". Roller Coaster DataBase.
  3. "Meilensteine in der Geschichte des Hansa-Parks". Hansa-Park (yn Almaeneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-07-21. Cyrchwyd July 26, 2014.