Len Allchurch

pêl-droediwr (1933-2016)

Cyn bêl-droediwr proffesiynol Cymreig oedd Leonard "Len" Allchurch (12 Medi 193316 Tachwedd 2016). Chwaraeodd yn y Gynghrair Bêl-Droed am bron i ugain mlynedd, yn chwarae ar y brig gyda Sheffield United a threuliodd gyfnodau hir gyda Dinas Abertawe a Stockport County. Fe'i ganwyd yn Abertawe yn frawd i'r pêl-droediwr Ivor Allchurch a chwaraeodd i Gymru yn rhyngwladol. Roedd yn nodedig am beidio derbyn unrhyw rybudd neu gerdyn drwy gydol ei holl yrfa yn y Gynghrair pêl-Droed.[1]

Len Allchurch
Ganwyd12 Medi 1933 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Bu farw16 Tachwedd 2016 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethpêl-droediwr Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auSheffield United F.C., C.P.D. Dinas Abertawe, Stockport County F.C., C.P.D. Dinas Abertawe, Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Saflehanerwr asgell Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata
Len Allchurch
Gwybodaeth Bersonol
Taldra5 ft 8 in (1.73 m)
SafleAsgellwr
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
1950–1961Abertawe276(49)
1961–1965Sheffield United123(32)
1965–1969Stockport County131(16)
1969–1971Abertawe71(11)
Cyfanswm604(108)
Tîm Cenedlaethol
1955–1963Cymru11(0)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd..
† Ymddangosiadau (Goliau).

Gyrfa clwb golygu

Cychwynnodd ei yrfa gyda Dinas Abertawe ac ar ôl llofnodi termau proffesiynol yn Hydref 1950, gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn 17 oed.[2] Ar ôl cwblhau ei wasanaeth cenedlaethol, daeth yn chwaraewr tîm cyntaf rheolaidd ar gyfer y clwb, gan ymddangos yn rownd derfynol Cwpan Cymru 1956 a 1957.[angen ffynhonnell]

Pan oedd rheolwr Sheffield United, John Harris, yn edrych i aildanio eu hymgyrch simsan ar gyfer dyrchafiad, cynigiodd £12,000 ar gyfer Allchurch ond gwrthodwyd y cynnig.[1] Yn y pendraw cytunwyd ar bris o £18000 ym Mawrth 1961.[1] Cafodd Allchurch effaith ar unwaith, gan sgorio ar ei ymddangosiad cyntaf ac ychwanegodd pum gôl pellach yn saith gêm olaf y tymor, gan helpu ei glwb i ennill dyrchafiad. Arhosodd yn rhan bwysig o dîm cyntaf United am y tair blynedd ddilynol gan wneud dros 140 o ymddangosiadau i gyd gan sgorio 37 o gôl.[1]

Ym Mawrth 1965, symudodd i dîm Stockport County yn Adran Pedwar, am £10,000, gan ddod y chwaraewr mwyaf drud i'w arwyddo yn hanes y clwb. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i'r clwb ar 6 Medi 1965 gan guro Tranmere Rovers o 2–1 a helpodd y clwb ennill dyrchafiad i'r Drydedd Adran yn ei ail flwyddyn yn Edgeley Parc. Ar ôl ennill gwobr chwaraewr y flwyddyn y clwb yn ei dymor olaf, dychwelodd i glwb Dinas Abertawe lle gorffennodd ei yrfa broffesiynol.[3]

Gyrfa ryngwladol golygu

Ymunodd Allchurch a'i frawd Ivor yn nhîm cenedlaethol Cymru am y tro cyntaf yn Ebrill 1955 yn erbyn Iwerddon.[4] Enillodd 11 cap dros ei wlad.

Wedi pêl-droed golygu

Ar ôl ymddeol aeth Allchurch i redeg gwesty yn Abertawe cyn rhedeg busnes nwyddau lledr.[1] Bu farw yn 83 oed ar 16 Tachwedd 2016.[5]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Denis Clarebrough & Andrew Kirkham (2008). Sheffield United Who's Who. Hallamshire Press. t. 32. ISBN 978-1-874718-69-7.
  2.  Past players. Swansea City A.F.C.. Adalwyd ar 15 Mai 2010.
  3.  Len Allchurch. Stockport County F.C. (27 Mehefin 2008). Adalwyd ar 15 Mai 2010.
  4. Soccer Who's Who compiled by Maurice Golesworthy The Sportsmans Book Club London 1965
  5.  Swansea City legend and former Wales international Len Allchurch dies aged 83. WalesOnline (16 Tachwedd 2016). Adalwyd ar 16 Tachwedd 2016.