Leo Varadkar

gwleidydd Gwyddelig

Gwleidydd Gwyddelig a meddyg yw Leo Eric Varadkar (ganwyd 18 Ionawr 1979) oedd yn arweinydd Fine Gael rhwng 2017 a 2024. Drwy gytundeb clymbleidiol daeth yn Brif Weinidog Iwerddon a Gweinidog Amddiffyn rhwng Mehefin 2017 a Mehefin 2020 cyn dod yn Ddirprwy Brif Weinidog rhwng Mehefin 2020 a Rhagfyr 2022. Ailgymerodd swydd y Prif Weinidog yn Rhagfyr 2022 ond ymddiswyddodd yn Mawrth 2024.[1]

Leo Varadkar
TD
Varadkar yn 2020
Tánaiste
Deiliad
Cychwyn y swydd
27 Mehefin 2020
TaoiseachMicheál Martin
Rhagflaenwyd ganSimon Coveney
14eg Taoiseach
Yn ei swydd
14 Mehefin 2017 – 27 Mehefin 2020
ArlywyddMichael D. Higgins
TánaisteFrances Fitzgerald
Simon Coveney
Rhagflaenwyd ganEnda Kenny
Dilynwyd ganMicheál Martin
Arweinydd Fine Gael
Deiliad
Cychwyn y swydd
2 Mehefin 2017
DirprwySimon Coveney
Rhagflaenwyd ganEnda Kenny
Gweinidog Amddiffyn
Yn ei swydd
14 Mehefin 2017 – 27 Mehefin 2020
Rhagflaenwyd ganEnda Kenny
Gweinidog dros Faterion Cyflogaeth ac Amddiffyn Cymdeithasol
Yn ei swydd
6 Mai 2016 – 14 Mehefin 2017
TaoiseachEnda Kenny
Rhagflaenwyd ganJoan Burton
Dilynwyd ganRegina Doherty
Gweinidog Iechyd
Yn ei swydd
11 Gorffennaf 2014 – 6 Mai 2016
TaoiseachEnda Kenny
Rhagflaenwyd ganJames Reilly
Dilynwyd ganSimon Harris
Gweinidog dros Drafnidiaeth, Twristiaeth a Chwaraeon
Yn ei swydd
9 Mawrth 2011 – 11 Gorffennaf 2014
TaoiseachEnda Kenny
Rhagflaenwyd ganPat Carey
Dilynwyd ganPaschal Donohoe
Teachta Dála
Deiliad
Cychwyn y swydd
Mehefin 2007
EtholaethGorllewin Dulyn
Manylion personol
GanwydLeo Eric Varadkar
(1979-01-18) 18 Ionawr 1979 (45 oed)
Ysbyty Rotunda, Dulyn
CenedligrwyddIrish
Plaid wleidyddolFine Gael
CymarMatthew Barrett (2015–presennol)
AddysgThe King's Hospital
Alma materColeg y Drindod, Dulyn
GwefanGwefan etholaethaol

Fe'i ganwyd yn Ysbyty Rotunda, Dulyn, yn fab i'r meddyg Ashok Varadkar o Mumbai a'i wraig Miriam (née Howell) oedd yn nyrs. Cyfarfu eu rhieni tra'n gweithio yn Slough yn Lloegr. Er bod ei dad yn Hindŵ, magwyd ef yn Gatholig. Cafodd ei addysg yng Ngholeg y Drindod, Dulyn.

Mae'n aelod o blaid Fine Gael, plaid a ystyrir yn fwy asgell dde a mwy cymodlon at gyd-weithio â'r Deyrnas Unedig, na'r blaid fawr arall, Fianna Fail.

Roedd yn gefnogwr brwd dros gyfreithloni priodas hoyw yn y refferendwm yn newid Cyfansoddiad Iwerddon yn 2015.[2]

Etholwyd ef yn Taoiseach (Prif Weinidog) Iwerddon ym mis Mehefin 2017. Ef oedd y Taoiseach gyntaf i fod o dras Indiaidd ac yn agored hoyw. Cafodd ei ddewis i fod yn Ddirprwy Prif Weinidog ar ôl i etholiad Dáil Éireann, 2020, achosi trafodaethau clymbleidiol rhwng Fianna Fail, Fine Gael a'r Gwyrddion. Mi fydd llywodraeth Micheál Martin yn arwain am dymor o 1 flynedd ac hanner, wedyn bydd Varadkar yn cymryd yr awenau fel Taoiseach eto am weddill y tymor.[3][4]

Ymddiswyddodd yn annisgwyl ar 20 Mawrth 2024 gan ddweud "Ar ôl saith mlynedd yn y swydd, dydw i ddim yn teimlo mai fi yw’r person gorau ar gyfer y swydd hon bellach". Bydd yn parhau fel Prif Weinidog nes i Taoiseach newydd gael eu hethol.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Gweriniaeth Iwerddon: Y Taoiseach Leo Varadkar yn camu o'r neilltu". newyddion.s4c.cymru. 2024-03-24. Cyrchwyd 2024-03-24.
  2. https://www.irishtimes.com/news/politics/leo-varadkar-i-wanted-to-be-an-equal-citizen-and-today-i-am-1.2223688
  3. O'Halloran, Marie. "The Fine Gael members who are in the new cabinet". Irish Times (yn Saesneg).[dolen marw]
  4. "Disgwyl mai Micheal Martin fydd arweinydd newydd Iwerddon". Golwg360.