Leon Battista Alberti

Dyneiddiwr a phensaer Eidalaidd oedd Leon Battista Alberti (14 Chwefror 140425 Ebrill 1472) sydd yn nodedig am ei ddamcaniaethu celfyddydol. Fe'i ystyrir yn esiampl o homo universalis y Dadeni.

Leon Battista Alberti
Paentiad olew o Leon Battista Alberti o'r 17g.
GanwydLeon Battista degli Alberti Edit this on Wikidata
14 Chwefror 1404 Edit this on Wikidata
Genova Edit this on Wikidata
Bu farw25 Ebrill 1472 Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Genova Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethathronydd, ieithydd, cryptograffwr, bardd, pensaer, damcaniaethwr pensaernïol, damcaniaethwr cerddoriaeth, cerddolegydd, cerflunydd, ysgrifennwr, cynllunydd medalau, arlunydd, mathemategydd, dramodydd, organydd, gwyddonydd, arlunydd, damcaniaethwr celf, dyneiddiwr, swyddog, mabolgampwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amBasilica di Sant'Andrea, San Sebastiano, De pictura, Apologi centum Edit this on Wikidata
Mudiady Dadeni Eidalaidd Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg golygu

Ganed yn Genovaa, Gweriniaeth Genovaa, yn fab anghyfreithlon i fanciwr o Fflorens. Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Bologna, ond tynnwyd ei sylw yn fwyfwy gan y clasuron.

Ysgolheictod a llenydda golygu

Ymhlith ei ysgrifeniadau, sydd yn nodweddiadol o ddyneiddiaeth yr oes, mae comedi yn yr iaith Ladin, a chasgliad o ymgomion ac ysgrifau ar bynciau moesol o'r enw Intercenales. Ysgrifennodd hefyd draethawd o'r enw Della famiglia sydd yn ymwneud â chadw tŷ, rheoli ystadau, priodas, a magu plant. O ganlyniad i'w ddoniau llenyddol, cafodd Alberti waith yn Llys y Pab.[1]

Pensaernïaeth a chelf golygu

Aeth Alberti gyda Llys y Pab i Weriniaeth Fflorens ym 1432. Yno, cyfarfu â dyneiddwyr ac arlunwyr amlwg y ddinas. Er nad oedd yn medru Tysganeg fel ei iaith gyntaf, cyflawnodd Grammatica della lingua toscana, y gramadeg cyntaf o'r iaith honno.

Prif arbenigedd Alberti, mae'n debyg, oedd pensaernïaeth, a châi ddylanwad mawr ar ddamcaniaeth bensaernïol y Dadeni. Ysgrifennodd y traethawd Lladin De re aedificatoria (1452) ar sail syniadaeth y pensaer Rhufeinig Vitruvius. Cynlluniodd Alberti nifer o adeiladau, gan gynnwys y Palazzo Rucellai yn Fflorens a Basilica Sant'Andrea ym Mantova. Ail-fodelodd hefyd, yn yr arddull clasurol, y tu allan i Tempio Malatestiano yn Rimini.

Bu hefyd yn arlunydd ac yn gerflunydd o nod. Mae ei draethawd Elementa picturae (1435) yn disgrifio egwyddorion y persbectif llinellog a gyflwynwyd gan y cerflunydd Donatello a'r paentiwr Masaccio.

Diwedd ei oes golygu

Bu farw Leon Barrista Alberti yn Rhufain yn 68 oed.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Charles G. Nauert, Historical Dictionary of the Renaissance (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2004), t. 7.
  2. (Saesneg) Leon Barrista Alberti. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 13 Medi 2021.