Leonard Hobhouse

cymdeithasegydd Prydeinig (1864-1929)

Cymdeithasegydd, damcaniaethwr gwleidyddol, ac athronydd rhyddfrydol o Sais oedd Leonard Trelawny Hobhouse (8 Medi 186421 Mehefin 1929).[1]

Leonard Hobhouse
Ganwyd8 Medi 1864 Edit this on Wikidata
St Ive Edit this on Wikidata
Bu farw21 Mehefin 1929 Edit this on Wikidata
Alençon Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr, cymdeithasegydd, academydd, athronydd, gwyddonydd gwleidyddol Edit this on Wikidata
Cyflogwr
TadReginald Hobhouse Edit this on Wikidata
MamCaroline Salusbury-Trelawny Edit this on Wikidata
PriodNora Hadwen Edit this on Wikidata
PlantReginald Oliver Hobhouse, Leonora Hobhouse, Marjorie Berta Hobhouse Edit this on Wikidata

Ganed ym Mhorth Ia, Cernyw. Aeth i Goleg Corpus Christi, Rhydychen, ym 1883, ac wedi iddo dderbyn ei radd dechreuodd addysgu yno ym 1887. Fe'i etholwyd yn gymrawd yng Ngholeg Corpus Christi ym 1894. Symudodd o Rydychen i Fanceinion ym 1897 a gweithiodd i bapur newydd The Manchester Guardian dan olygyddiaeth C. P. Scott. Ymddiswyddodd o'i orchwyl parhaol i'r Guardian ym 1902, ond cyfrannodd yn achlysurol at y cyhoeddiad hwnnw am flynyddoedd lawer. Cyfrannodd at gylchgronau rhyddfrydol, radicalaidd, gan gynnwys The Nation, a bu'n olygydd gwleidyddol y Tribune o 1905 i 1907.

Gwasanaethodd Hobhouse yn ysgrifennydd yr Undeb Masnach Rydd o 1903 i 1905, a bu'n dyfarnu ar sawl anghydfod diwydiannol. Ym 1907 penodwyd Hobhouse i Gadair Gymdeithaseg Martin White yn Ysgol Economeg Llundain, a bu yn y swydd honno am weddill ei oes. Bu farw yn Alençon, yng ngogledd-orllewin Ffrainc, yn 64 oed.

Llyfryddiaeth golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Leonard Trelawny Hobhouse. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Tachwedd 2020.