Olion dinas o gyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig yng Ngogledd Affrica yw Leptis Magna, neu Lepcis Magna. Saif gerllaw Tripoli yn Libia. Fe'i dynodwyd yn Safle Treftadaeth y Byd yn 1982.

Leptis Magna
Mathdinas hynafol, safle archaeolegol, emporia, dinas Rhyfeinig Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 7 g CC (second half) Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Siral-Khums Edit this on Wikidata
GwladLibia Edit this on Wikidata
Arwynebedd387.485 ha Edit this on Wikidata
GerllawY Môr Canoldir Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau32.638332°N 14.290496°E Edit this on Wikidata
Cyfnod daearegolyr Ymerodraeth Rufeinig Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata
Manylion
Bwa Septimius Severus

Sefydlwyd y ddinas gan wladychwyr Ffeniciaidd tua 1100 CC, ond ni ddaeth yn ddinas bwysig hyd nes i Carthago ddod un un o bwerau mawr y Môr Canoldir o'r 9g CC ymlaen. Roedd yn rhan o ymerodraeth Carthago hyd ddiedd y Trydydd Rhyfel Pwnig yn 146 CC, pan ddaeth yn rhan o ymerodraeth Rhufain. Dan yr ymerawdwr Tiberius, daeth yn brifddinas talaith Affrica, ac yn fuan daeth yn un o ddinasoedd pwysicaf Gogledd Affrica.

Cyrhaeddodd y ddinas ei huchafbwynt yn y blynyddoedd wedi 193, pan ddaeth Septimius Severus, oedd yn enedigol o'r ddinas, yn ymerawdwr. Gwariodd yr ymerawdwr lawer ar adeiladau newydd yn ei ddinas enedigol. Yn 439, cipiwyd y ddinas gan y Fandaliaid, a dinistriwyd ei muriau. Yn 523, anrheithiwyd y ddinas gan y Berberiaid. Yn 533, cipiwyd y ddinas i'r Ymerodraeth Fysantaidd gan y cadfridog Belisarius. Erbyn 650, pan goncrwyd yr ardal gan yr Arabiaid, nid oedd neb yn byw yn y ddinas heblaw garsiwn Bysantaidd bychan.

Theatr Leptis Magna