Bardd Saesneg-Cymraeg a chyfansoddwr caneuon oedd Les Barker (30 Ionawr 194715 Ionawr 2023).[1] Roedd yn adnabyddus am ei farddoniaeth ddigri a'i barodïau o ganeuon poblogaidd, er ei fod hefyd wedi cynhyrchu llawer o waith dwys a difrifol.[2]

Les Barker
Les Barker yng Ngŵyl Ely 2010.
Ganwyd30 Ionawr 1947 Edit this on Wikidata
Manceinion Edit this on Wikidata
Bu farw14 Ionawr 2023 Edit this on Wikidata
Croesoswallt Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Les Barker (chwith) mewn gweithdy Wicipedia Cymraeg yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2012.

Yn wreiddiol o Fanceinion fe astudiodd i fod yn gyfrifydd cyn darganfod ei ddawn lenyddol. I ddechrau roedd yn mynd o gwmpas lleoliadau cerddoriaeth werin ac yn perfformio ar ei ben ei hun, ac yna ffurfiodd The Mrs Ackroyd Band (a enwyd ar ôl ei frithgi, Mrs Ackroyd).

Yn ogystal a pherfformio yng ngwledydd Prydain, teithiodd i berfformio yn Hong Kong, Awstralia, Seland Newydd, Unol Daleithiau America a Chanada.

Cyhoeddodd 78 cyfrol o farddoniaeth Saesneg a 24 o albymau (un ai fel perfformiwr unigol neu gyda'i fand).

Y Gymraeg golygu

Yn y 2000au symudodd i fyw i Wrecsam, ac aeth ati i ddysgu Cymraeg. Aeth ymlaen i farddoni'n Gymraeg, yn cystadlu mewn eisteddfodau a chyhoeddi cyfieithiad Saesneg o waith Daniel Owen.[3][4] Daeth yn aelod o dîm Talwrn y Beirdd Tegeingl.

Ers 2012 bu'n gyfrannwr cyson ar y Wicipedia Cymraeg gan greu dros 2,200 o erthyglau newydd.[5]

Cyfeiriadau golygu

  1. Les Barker: “Un o drysorau ein cenedl – ar fenthyg” , Golwg360, 16 Ionawr 2023.
  2. Llenyddiaeth Cymru Archifwyd 2013-03-04 yn y Peiriant Wayback.; adalwyd 05/12/2012
  3. LES BARKER WINS WELSH AWARD Gwefan BBC Radio 2 (21/05/08) (Saesneg)
  4. Fireside Tales:Datganiad i’r wasg Archifwyd 2016-07-30 yn y Peiriant Wayback. Brown Cow Publishing (10.5.2011)
  5.  Ystadegau Lesbardd. wmflabs. Adalwyd ar 16 Ionawr 2023.

Dolenni allanol golygu