Les Contes de ma mère l’Oye

Casgliad enwog o chwedlau gwerin traddodiadol a addaswyd gan y llenor Ffrengig Charles Perrault a'i gyhoeddi yn ei ffurf derfynol yn 1697 yw Contes de ma mère l’Oye, ou Histoires ou contes du temps passé avec des moralités, a adnabyddir hefyd fel Les Contes de ma mère l’Oye - sef "Chwedlau fy Mam yr Ŵydd" - ac weithiau fel Contes de Perrault, sef Chwedlau Perrault). Casgliad o chwedlau gwerin ydyw, wedi eu casglu o ddeunydd llafar traddodiadol ond yn cael eu hadrodd o newydd gan yr awdur.

Les Contes de ma mère l’Oye
Enghraifft o'r canlynolcollection of fairy tales, literary cycle, gwaith creadigol Edit this on Wikidata
AwdurCharles Perrault Edit this on Wikidata
GwladFfrainc, Teyrnas Ffrainc Edit this on Wikidata
IaithFfrangeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1697 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1695 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysLa belle au bois dormant, Le Petit Chaperon rouge, Cinderella, Le Maistre Chat Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithFfrainc Edit this on Wikidata


Wynebddalen argraffiad 1867, llun gan Gustave Doré
Darlun o Charles Perrault yn yr 17g
Gustave Doré: "Hugan Goch Fach a'r Blaidd"

Y casgliad golygu

Mae'r chwedlau a geir yn y gyfrol yn cynnwys rhai o'r chwedlau gwerin enwocaf heddiw, diolch, i raddau, i gyfieithiadau ac addasiadau diweddarach. Maent yn cynnwys:

Y deunydd golygu

Mae tarddiad rhai o'r chwedlau hyn yn hynafol ac yn perthyn i'r ystorfa ryngwladol o chwedlau gwerin. Yn achos rhai ohonynt ceir fersiynau ar draws Ewrasia - o Orllewin Ewrop i Tsieina a Siapan yn achos Sinderela, er enghraifft. Mae casgliad Perrault yn bwysig am ei fod yn cynrychioli'r cam cyntaf yn y broses a arweiniodd at droi'r hen chwedlau hyn ac eraill o'r un dosbarth yn ddeunydd "chwedlau Tylwyth Teg" i blant, gan eu hystumio a'u gweddnewid yn y broses (teg dweud nad oedd hynny yn fwriad gan Perrault).

CopÏwyd ac addaswyd chwedlau Perrault gan awduron eraill a chafwyd sawl fersiwn ohonynt. Ond ychydig sy'n cymharu â chwedlau Perrault am symlrwydd naturiol ond urddasol eu naratif, eu diffyg moesoli a'u blas "cyntefig". Mae pawb yn gyfarwydd â hanes Hugan Goch Fach (Little Red Riding Hood) diolch i fersiwn y Brodyr Grimm a ffilmiau cartŵn, ond yn chwedl Perrault does dim achubiaeth yn ffurf y coediwr yn lladd y blaidd a'i fwyall: yn y chwedl gan Perrault mae'r nain - a Hugan Goch Fach ei hun hefyd, ym mreichiau'r blaidd ac yng ngwely'r nain druan - yn cael eu bwyta gan y Blaidd Mawr Drwg.

Testunau cyflawn ar Wikisource golygu

Charles Perrault

Gweler hefyd golygu