Lewis Bayly

esgob ac awdur

Clerigwr a fu'n Esgob Bangor ac awdur oedd Lewis Bayly neu Lewis Bayley (bu farw 26 Hydref 1631).[1][2]

Lewis Bayly
Clawr The Practice of Piety (1611)
Ganwyd1565 Edit this on Wikidata
Caerfyrddin Edit this on Wikidata
Bu farw26 Hydref 1631 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethoffeiriad, athronydd, ysgrifennwr, diwinydd Edit this on Wikidata
Swyddesgob Edit this on Wikidata
PriodAnne Bagenal Edit this on Wikidata
PlantNicholas Bayly Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Nid oes sicrwydd ymhle y cafodd ei eni; efallai Caerfyrddin yn ôl Y Bywgraffiadur Cymreig.[3] Graddiodd o Goleg Exeter, Rhydychen, a daeth yn ficer Shipton-on-Stour, Swydd Gaerwrangon yn 1597, ac wedyn Evesham yn 1600, lle daeth hefyd yn brifathro'r ysgol ramadeg. Apwyntiwyd ef yn Esgob Bangor yn 1616.

Roedd yn gyfaill mawr i Syr John Wynn o Wydir, er iddynt ffraeo ar y dechrau pan geisiodd Bayly gyfyngu dylanwad yr uchelwr pwerus.

Mae'n fwyaf adnabyddus fel awdur The Practice of Piety (1611), llyfr defosiynol hynod o boblogaidd a gyfieithwyd i'r Gymraeg gan Rowland Vaughan o Gaergai fel Yr Ymarfer o Dduwioldeb yn 1630. Rhoddodd gefnogaeth i gyhoeddi Geiriadur John Davies, Mallwyd (1632).

Etifeddodd ei ŵyr Henry Bayly (1744-1812) ystâd Plas Newydd, Môn.

Cyfeiriadau golygu

  1. Jones, Josiah Thomas (1867). "Bayly, Lewis, D.D Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru" . Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I. Aberdâr: J T Jones a'i fab. t. 22.
  2. "Bayly, Lewis (c. 1575–1631), bishop of Bangor and devotional writer". Oxford Dictionary of National Biography (yn Saesneg). doi:10.1093/ref:odnb/1766. Cyrchwyd 2023-03-11.
  3. "BAYLY, LEWIS (bu farw 1631), esgob ac awdur | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2023-03-11.