Awdur Saesneg oedd Charles Lutwidge Dodgson a adnabyddir hefyd fel "Lewis Carroll" (27 Ionawr 1832 - 14 Ionawr 1898); roedd hefyd yn fathemategydd, yn flaenor yn yr eglwys ac yn ffotograffydd cynnar.[1][2] Ei lyfr enwocaf yw Alice's Adventures in Wonderland a'r dilyniant Through the Looking-Glass, sy'n cynnwys y cerddi enwog Jabberwocky a The Hunting of the Snark, ill dau'n enghreifftiau o'r genre 'nonsens llenyddol'. Mae ei ymdriniaeth o eiriau a chwarae gyda geiriau'n wahanol iawn i'w gyfoedion, fel mae ei ddefnydd o resymeg a ffantasi hefyd.[3]

Lewis Carroll
FfugenwLewis Carroll Edit this on Wikidata
GanwydCharles Lutwidge Dodgson Edit this on Wikidata
27 Ionawr 1832 Edit this on Wikidata
Daresbury Edit this on Wikidata
Bu farw14 Ionawr 1898 Edit this on Wikidata
o niwmonia Edit this on Wikidata
Guildford, The Chestnuts Edit this on Wikidata
Man preswylLloegr Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Lloegr Edit this on Wikidata
AddysgMeistr yn y Celfyddydau Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethmathemategydd, rhesymegwr, ffotograffydd, bardd, diacon, awdur plant, dyddiadurwr, nofelydd, ysgrifennwr, hunangofiannydd, athronydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amAnturiaethau Alys yng Ngwlad Hud, Through the Looking-Glass, Jabberwocky, The Walrus and the Carpenter, Phantasmagoria, The Hunting of the Snark, Rhyme? and Reason?, A Tangled Tale, Sylvie and Bruno, The Nursery "Alice", What the Tortoise Said to Achilles Edit this on Wikidata
Arddullllenyddiaeth plant, rhesymeg mathemateg, literary nonsense, barddoniaeth, Algebra llinol, social choice theory Edit this on Wikidata
TadCharles Dodgson Edit this on Wikidata
MamFrances Jane Lutwidge Edit this on Wikidata
PerthnasauCharles Dodgson Edit this on Wikidata
llofnod

Magwraeth golygu

Ganwyd Dodgson ym mhentref bychan Daresbury ger trefi Warrington a Runcorn yn Swydd Gaer, Lloegr,[4] y bachgen hynaf gyda dwy ferch yn hȳn nag ef. Cafodd ei rieni 8 plentyn ar ei ôl. Pan oedd yn un-ar-ddeg oed dyrchafwyd ei dad, a oedd yn rheithor a symudodd y teulu i reithordy yn Croft-on-Tees yng ngogledd Swydd Efrog. Bu'n gartref iddynt am y 25 mlynedd nesaf.

Llandudno golygu

Arferai Alice Liddell, y ferch ifanc a ysbrydolodd gymeriad "Alice", dreulio ei gwyliau gyda'r teulu ym Mhenmorfa (West Shore), Llandudno. Ceir cofeb i "Alice" a Lewis Carroll ym Mhenmorfa ond anghywir yw'r honiad mai yno y cyfansoddodd ei lyfrau plant enwog - yn wir, ni cheir tystiolaeth iddo ymweld â'r teulu Liddel ar eu gwyliau yn y dref.[5]

Ceir sawl cyfieithiad o waith Dodgson, gan gynnwys Anturiaethau Alys yng Ngwlad Hud. Dyma esiampl:

“Y ffordd acw,” ebe’r Gath gan chwifio’i phawen dde, “mae ’na Hetiwr yn byw; a’r ffordd acw,” gan chwifio’r llall, “mae ’na :Sgwarnog Fawrth yn byw. Ewch i ymweld â’r naill neu’r llall: mae’r ddau yn wallgof.”
“Ond does arna’ i ddim eisiau mynd i blith pobol wallgof,” ebe Alys.
“O, fedrwch chi ddim peidio,” meddai’r Gath, “rydyn ni i gyd yn wallgof yma. Rydw i’n wallgof. Rydych chi’n wallgof.”[6]

Cyfeiriadau golygu

  1. Elster, Charles Harrington (2006). The big book of beastly mispronunciations: the complete opinionated guide for the careful speaker. Houghton Mifflin Harcourt. tt. 158–159. ISBN 061842315X.
  2. Emerson, R. H. (1996). "The Unpronounceables: Difficult Literary Names 1500–1940". English Language Notes 34 (2): 63–74. ISSN 0013-8282. http://direct.bl.uk/bld/PlaceOrder.do?UIN=018450859&ETOC=RN&from=searchengine.
  3. "Lewis Carroll Societies". Lewiscarrollsociety.org.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-29. Cyrchwyd 12 September 2013.
  4. "Google map of Daresbury, UK". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-03-26. Cyrchwyd 22 October 2011.
  5. Ivor Wynne Jones, Llandudno, Queen of Welsh Resorts (ail arg., 2002), tt. 106-108.
  6. www.lewiscarroll.org; New Edition of Anturiaethau Alys yng Ngwlad Hud; gwefan Lewis Carroll Society of North America; The official web site of the LCSNA; adalwyd Ionawr 2016


   Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.