Lewis Howard Latimer

Dyfeisiwr Americanaidd a ddrafftiodd y patentau ar gyfer y bwlb golau a’r ffôn oedd Lewis Howard Latimer (4 Medi 1848 - 11 Rhagfyr 1928). Gwellodd ddyfais wreiddiol Thomas Edison trwy batentu'r defnydd o ffilament carbon gan olygu bod modd defnyddio golau trydan yn gyhoeddus ac yn y cartref.[1][2]

Lewis Howard Latimer
Ganwyd4 Medi 1848 Edit this on Wikidata
Chelsea, Massachusetts Edit this on Wikidata
Bu farw11 Rhagfyr 1928 Edit this on Wikidata
Flushing Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaethdyfeisiwr, peiriannydd Edit this on Wikidata
TadGeorge Latimer Edit this on Wikidata
Gwobr/auOriel yr Anfarwolion Genedlaethol Dyfeiswyr Edit this on Wikidata

Ganwyd Lewis Howard Latimer yn Chelsea, Massachusetts, ar Fedi 4, 1848, yr ieuengaf o bedwar o blant Rebecca Latimer (1823 - 13 Awst 1910) a George Latimer (4 Gorffennaf 1818 - 29 Mai 1897). [3] Roedd George Latimer wedi bod yn gaethwas i James B. Gray o Virginia. Rhedodd George Latimer i ffwrdd i Boston, Massachusetts, ym mis Hydref 1842, ynghyd â'i fam Rebecca, a oedd wedi bod yn gaethwas i ddyn arall. Pan ymddangosodd Gray, y caethfeistr, yn Boston i fynd â nhw yn ôl i Virginia, daeth yn achos nodedig i'r mudiad dros ddileu caethwasiaeth, gan ennill cyfranogiad diddymwyr fel William Lloyd Garrison. Yn y pen draw, codwyd arian i dalu $400 i Grey am ryddid George Latimer.

Ymunodd Lewis Howard Latimer â Llynges yr Unol Daleithiau yn 15 oed ar Fedi 16, 1863, a gwasanaethodd fel dyn tir sych i'r USS Massasoit. Ar ôl cael ei ryddhau gydag anrhydedd o'r llynges ar Orffennaf 3, 1865, cafodd ei gyflogi i weithio gyda chwmni cyfraith patent, Crosby Halstead a Gould, gyda chyflog $3.00 yr wythnos. Dysgodd sut i ddefnyddio sgwâr, pren mesur ac offer eraill. Gwelodd ei reolwr bod ganddo ddawn wrth fraslunio patentau a cafodd Latimer ei ddyrchafu i swydd y prif ddrafftiwr gan ennill $20.00 yr wythnos erbyn 1872. [3]

Priododd Latimer â Mary Wilson Lewis ar Tachwedd 15, 1873, yn Fall River, Massachusetts. Fe'i ganed yn Providence, Rhode Island, yn ferch i William a Louisa M. Lewis.[4] Cafodd Lewis a Mary Latimer ddwy ferch, Emma Jeanette (Mehefin 12, 1883 - Chwefror 1978) a Louise Rebecca (Ebrill 19, 1890 - Ionawr 1963). Priododd Jeanette â Gerald Fitzherbert Norman, y person du cyntaf i'w gyflogi fel athro ysgol uwchradd yn system ysgolion cyhoeddus Dinas Efrog Newydd,[5] a chawsant ddau o blant: Winifred Latimer Norman (Hydref 7, 1914 - Chwefror 4, 2014), gweithiwr cymdeithasol a wasanaethodd fel gwarcheidwad etifeddiaeth ei thad-cu; a Gerald Latimer Norman (Rhagfyr 22, 1911 - Awst 26, 1990), a ddaeth yn farnwr cyfraith weinyddol.

Am 25 mlynedd, o 1903 hyd ei farwolaeth ym 1928, bu Latimer yn byw gyda'i deulu mewn cartref ar Holly Avenue yn yr hyn a elwir bellach yn adran East Flushing o Queens, Efrog Newydd.[6] Bu farw Latimer ar Ragfyr 11, 1928, yn 80 oed.[1] Tua thrigain mlynedd ar ôl ei farwolaeth, symudwyd ei gartref o Holly Avenue i 137th Street yn Flushing, Queens, sydd tua 1.4 milltir i'r gogledd-orllewin o'i leoliad gwreiddiol.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Lewis H. Latimer Dead. Member of Edison Pioneers. Drew Original Plans for Bell Phone". New York Times. December 13, 1928.
  2. Lewis Howard Latimer, biography.com. Retrieved 2017-12-24.
  3. 3.0 3.1 Fouché, Rayvon, Black Inventors in the Age of Segregation: Granville T. Woods, Lewis H. Latimer, and Shelby J. Davidson, Baltimore & London: The Johns Hopkins University Press, 2003, ISBN 0-8018-7319-3.
  4. Massachusetts Marriages 253:121, Massachusetts Archives, Columbia Point, Boston
  5. Dick, Russell (2009). Black Genius: Inspirational Portraits of America's Black Leaders. New York: Skyhorse Publications. ISBN 978-1-60239-369-1.
  6. "Historic House Trust NYC". Historichousetrust.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-02-16.