Lewis Weston Dillwyn

gwleidydd a naturiaethwr Prydeinig (1778-1855)

Roedd Lewis Weston Dillwyn, FRS (21 Awst 177831 Awst 1855) yn wneuthurwr porslen, yn naturiaethwr ac yn Aelod Seneddol.[1][2]

Lewis Weston Dillwyn
Ganwyd21 Awst 1778 Edit this on Wikidata
Ipswich Edit this on Wikidata
Bu farw31 Awst 1855 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbotanegydd, gwleidydd, arbenigwr mewn ceffalapodau, naturiaethydd, malacolegydd, person busnes Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
TadWilliam Dillwyn Edit this on Wikidata
MamSarah Weston Edit this on Wikidata
PriodMary Adams Edit this on Wikidata
PlantMary Dillwyn, Lewis Llewelyn Dillwyn, John Dillwyn Llewelyn, Fanny Llewelyn Dillwyn Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Cymrawd Cymdeithas y Linnean Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Cafodd Dillwyn ei eni yn Walthamstow, Essex, yn fab hynaf William Dillwyn (1743-1824) a Sarah Dillwyn (née Weston). Roedd ei dad yn Grynwr o Pennsylvania a oedd wedi dychwelyd i wledydd Prydain ym 1777 i ffoi Rhyfel Annibyniaeth America gan ymsefydlu yn Walthamstow, Essex. Roedd William Dillwyn yn ymgyrchydd gwrth gaethwasiaeth pybyr a bu ar daith drwy Gymru a Lloegr ar ran y Pwyllgor Gwrth Gaethwasiaeth.

Derbyniodd ei addysg yn Ysgol y Crynwyr yn Tottenham, ac yn 1797 aeth i Dover i astudio botaneg.

Priododd Mary Adams, merch y Cyrnol John Llewelyn Penlle'r-gaer, Llangyfelach ym 1807. Bu iddynt chwech o blant, gan gynnwys y ffotograffydd nodedig John Dillwyn Llewelyn (1810-1882), Lewis Llewelyn Dillwyn (1814-1892) a daeth yn Aelod Seneddol Abertawe a'r ffotograffydd arloesol Mary Dillwyn (1816-1906).

Bu'r teulu yn byw yn Neuadd y Sgeti, Abertawe

Gwaith golygu

 
Jwg Hufen o Abertawe, Walker Art Gallery

Ym 1802 daeth Dillwyn yn bartner yng Nghrochenwaith y Cambrian yn Abertawe gan ddod yn berchennog y cwmni cyfan ym 1810. Ym 1811 fe aeth a'r cwmni i mewn i bartneriaeth gyda chwmni T.& J. Bevington gan greu cwmni Dillwyn & Co, ym 1814 prynodd Dillwyn & Co Gwaith Porslen Nantgarw. Roedd y cwmni'n cynhyrchu crochenwaith a phorslen cywrain, sydd, hyd heddiw, yn cael ei werthfawrogi gan gasglwyr am ei ansawdd uchel.[3]

Gyrfa wleidyddol golygu

Cafodd Dillwyn ei benodi’n Uchel Siryf Morgannwg ym 1818 a chafodd ei ethol i'r Senedd Ddiwygiedig Gyntaf ym 1832 fel AS Sir Forgannwg gan wasanaethu am ddau dymor cyn sefyll i lawr ym 1837. Cafodd ei ethol yn Faer Abertawe ym 1839.

Y Naturiaethwr golygu

Roedd Lewis Weston Dillwyn hefyd yn adnabyddus am ei weithiau cyhoeddedig ar fotaneg ac astudiaethau o bysgod cregyn,[4] Ymhlith ei gyhoeddiadau mae:

  • Natural History of British Confervae (1802-9)
  • Botanist's Guide through England and Wales, ar y cyd a Dawson Turner (1805)
  • A Descriptive Catalogue of British Shells (1817)
  • A review of the references to the Hortus malabaricus of Henry Van Rheede Van Draakenstein (1839)
  • Hortus Collinsonianus (1843)
  • An Index to the Historia Conchyliorum of Lister (Oxford, 1923)

Ym 1840 cyhoeddodd llyfryn ar hanes Abertawe.

Cyfeiriadau golygu

  1. Dyddiaduron Dillwyn yn LLGC [1] Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 26 Mehefin 2015
  2. Dillwyn, Lewis Weston (DNB00)
  3. Disgrifiad o'r Casgliad Ceramic, Prifysgol Cymru Aberystwyth, [2] Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 26 Mehefin 2015
  4. Amgueddfa Cymru [3][dolen marw] adalwyd Mehefin 26 2015]
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Christopher Rice Mansel Talbot
Aelod Seneddol Sir Forgannwg
18321837
Olynydd:
Edwin Wyndham-Quin