Lewis o Gaerleon

Mathemategydd, meddyg i Harri Tudur

Mathemategydd craff a meddyg i nifer o frenhinoedd Lloegr gan gynnwys Harri Tudur oedd Lewis o Gaerleon.[1] Bu hefyd yn feddyg i: Elizabeth Woodville, gweddw Edward IV, brenin Lloegr, Margaret Iarlles Richmond ac i Harri Tudur. Dywed yr hanesydd Chris Skidmore amdano, ei fod yn un o bobl mwyaf deallus yn y Llys Lancastraidd.[2]

Lluniodd lawer o dablau mathemategol a seryddol ynglŷn â diffyg ar yr haul a'r lloer.

Mae roliau'r Trysorlys yn Llundain yn ei grybwyll ddiwethaf yn 1493-9. Derbyniodd rodd o 40 morc y flwyddyn am ei oes o gyllid Wiltshire, ac ar 27 Tachwedd 1486 cafodd rodd ychwanegol o 20 morc am ei oes o'r cyllid gwladol.

Ar 3 Awst, 1488 cafodd ei ddyrchafu'n un o farchogion gan y brenin Harri VII yng nghapel neu Eglwys Mair Forwyn, Sant Siôr y Merthyr a Sant Edward y Cyffeswr yng Nghastell Windsor. Rhoddwyd rhodd blynyddol o £40 iddo hefyd, yn dilyn Brwydr Maes Bosworth.

Y negesydd dirgel golygu

Yn 1482, wedi i Richard III, brenin Lloegr gipio coron Lloegr oddi wrth Edward V a oedd ar y pryd yn ddim ond 12 mlwydd oed, ffodd mam Edward, Elizabeth Woodville am ei bywyd gan hawlio lloches, gyda'i merch Elisabeth o Efrog ac eraill o'i theulu, yn Abaty Westminster. Bu yno am rai misoedd; yn y cyfamser, roedd y brenin newydd yn awyddus iawn i'w hatal rhag cysylltu gyda Harri Tudur yn Llydaw, ac yn awyddus i'w cloi yn Nhŵr Llundain. I'r perwyl hwn, amgylchynodd Richard yr abaty gyda llu o'i filwyr gorau i atal neb rhag mynd i mewn nag allan. Roedd mam Harri Tudur, Margaret Beaufort yn awyddus i gysylltu gydag Elizabeth, a oedd i bob pwrpas yn garcharor yn yr abaty. Meddyg Elizabeth Woodville a'i theulu oedd yr Lancastriad Lewis o Gaerleon, a heriodd farwolaeth sawl tro yn mynd a negeseuon o'r naill at y llall, gan drefnu gyda nhw briodas Harri a merch Elisabeth, sef Elisabeth o Efrog. Mae'n debyg mai dyma pam y gwobrwywyd ef yn ariannol, wedi i Harri ladd Richard ym Mrwydr Bosworth.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Bywgraffiadur ar-lein y Llyfrgell Genedlaethol
  2. Bosworth: the Birth of the Tudors; Gwasg Foenix; 2013; tud 139.
  3. Polydore Vergil gofnododd hyn; drwy: Bosworth: The Birth of the Tudors; Gwasg Phoenix; 2003. Tud. 139