Lewys Glyn Cothi

un o feirdd pennaf y 15fed g.

Bardd Cymraeg o'r 15g oedd Lewys Glyn Cothi (tua 1425 - tua 1490). Roedd yn fardd cynhyrchiol iawn a ganai'n rhwydd ac eglur ar sawl mesur.

Lewys Glyn Cothi
Ganwyd1420 Edit this on Wikidata
Llanybydder Edit this on Wikidata
Bu farw1490 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1447 Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ni wyddys fawr dim am Lewys Glyn Cothi ar wahân i'r hyn y gellir casglu o dystiolaeth ei gerddi. Arferid credu y cafodd ei enw barddol am iddo fod yn frodor o lannau afon Cothi yn Sir Gaerfyrddin, ond gwyddys erbyn hyn mai frodor o ardal ym mhlwyfi Llanybydder a Llanfihangel-rhos-y-corn, yn yr un sir, sy'n cynnwys fforest frenhinol Glyn Cothi, oedd ef. Ymddengys iddo gael ei eni yno yn y 1420au, efallai tua'r flwyddyn 1425. Gellir dyddio y gerdd olaf ganddo sydd ar glawr i fis Mawrth, 1489, ac felly gellir casglu iddo farw rywbryd yn y blynyddoedd ar ôl hynny, yn y 1490au yn ôl pob tebyg.[1]

 
Golygiad mewn orgraff fodern o holl waith un o feridd Cymraeg mwyaf y bymthegfed ganrif; Gwasg Prifysgol Cymru; 1995

Llywelyn oedd ei enw bedydd, ond defnyddiai'r bardd ei hun amryw ffurfiau ar 'Lewys' neu 'Lewis', e.e. Lewys Glyn Cothi (y ffurf amlach) a Lewys y Glyn. Ceir awgrym mewn un o'i lawysgrifau ei fod wedi gwasanaethu ym Mhriordy Caerfyrddin a'i fod wedi derbyn peth addysg yno. Medrai ysgrifennu - camp anghyffredin yn yr Oesoedd Canol - ac mae rhai o'i lawysgrifau wedi goroesi. Roedd yn Lladinwr da hefyd, awgrym arall ei fod wedi derbyn addysg yn y priordy, a fu'n enwog am ei sgriptoriwm.[1]

Credid ar un adeg iddo wasanaethu fel swyddog ym myddin Siasbar Tudur yn Rhyfeloedd y Rhosynnau. Ond er y gellir derbyn, ar sail un o'i gerddi, iddo fod yn dyst i Frwydr Mortimer's Cross (1461) gyda meibion Gruffudd ap Nicolas, mae'n annhebygol iddo fod yn swyddog. Treuliodd gyfnod ar herw yn ardal Pumlumon ac, yn nes ymlaen, yn Eryri, ar ôl y frwydr dynghedfennol honno. Roedd yn gefnogwr brwd i achos y Lancastriaid ond canodd i rai o gefngowyr y Iorciaid yng Nghymru yn ogystal. Ond "mae'n amlwg hefyd fod buddiannau Cymru'n bwysicach yn ei olwg na llwyddiant unrhyw un o bleidiau Lloegr"[2] ac mae ei wladgarwch a'i gasineb o'r Saeson yn elfennau amlwg yn ei ganu. Dengys ei gerddi ei fod yn gyfarwydd â phob rhan o Gymru, o Fôn i Fynwy, yn llythrennol.

Cerddi golygu

Cedwir 238 o awdlau a chywyddau gan Lewys Glyn Cothi yn y llawysgrifau. Mae'r rhain yn cynnwys naw o gerddi crefyddol, yn cynnwys awdl nodedig 'I Saint Cymru'. Canodd nifer o gerddi mawl a marwnadau i rai o wŷr amlycaf yr oes yng Nghymru. Roedd ei noddwyr yn cynnwys y Tuduriaid, sef Siasbar Tudur, Edmwnd Tudur, a Harri Tudur, Syr Rhys ap Tomas, a Gruffudd ap Nicolas. Canodd sawl cerdd darogan yn ogystal.[1]

Un o'i gerddi mwyaf adnabyddus, a hynny ers canrifoedd, yw 'Dychan Gwŷr Caer', sy'n seiledig ar brofiadau'r bardd yn y ddinas honno mewn cyfnod pan fu'r Cymry yn cael eu trin fel dinesyddion eilradd. Mae'n cynnwys rhai o'r cwpledi mwyaf miniog ym marddoniaeth Gymraeg. Er enghraifft:

Ni bu faer yng Nghaer anghywirach,
ni bu sersiant waeth na neb gaethach,
ni bu haid ddiawliaid ddelach - eu gwahodd,
ni bu ieir un fodd na brain feddwach,
na gwragedd Llundain garnbuteiniach,
na gwŷr un floneg garnfileiniach,
na meibion gweinion gwannach - yn eu cred,
na merched ar lled yn anlladach,
na llyffaint un fraint, na moch fryntach,
na chwain un lifrai, na chŵn lyfrach,
na phlasau cynddrwg, na ffalsach ddynion,
na thir fwy o ladron, na thref leidrach.[3]

Ymddiddorai'n fawr yn achau'r Cymry yn ogystal, ac mae ei lawysrifau yn cynnwys nodiadau achyddol a lluniau deniadol o arfbeisiau prif deuluoedd Cymru. Gellir ei ystyried felly yn un o herodwyr mawr y cyfnod yn ogystal.[1]

Un o'r cerddi mwyaf dirdynnol yn y Gymraeg ydyw ei gerdd i'w fab Sion a fu farw'n bump oed:

Un mab oedd degan i mi,
Dwynwen, gwae’i dad o’i eni!
Gwae a edid o gudab
i boeni mwy heb un mab.
Fy nwy ais, farw fy nisyn,
y sy’n glaf am Siôn y Glyn.
Udo fyth yr ydwyf i
am benaig Mabinogi.
Afal pêr ac aderyn
a garai’r gwas, a gro gwyn;
bwa o flaen y ddraenen,
cleddau digon brau o bren;
ofni’r bib, ofni’r bwbach,
ymbil â'i fam am y bêl fach...[4]

Llawysgrifau golygu

Ceir casgliadau pwysig o waith y bardd yn llawysgrifau Peniarth, yn cynnwys llawysgrif Peniarth 109 yn ei law ei hun, Llyfr Coch Hergest, Llyfr Gwyn Hergest ac yn llawysgrifau Llansteffan.[1]

Llyfryddiaeth golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Dafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Gwasg Prifysgol Cymru, 1995). Rhagymadrodd.
  2. Dafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi, tud. xxv.
  3. Dafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi, cerdd 215.
  4. Mae gweddill y gerdd i'w chael ar Wicidestun.