Lili Boulanger

cyfansoddwr a aned yn 1893

Cyfansoddwraig o Ffrainc oedd Marie-Juliette Olga ("Lili") Boulanger (21 Awst 189315 Mawrth 1918). Roedd hi yn chwaer iau i'r cyfansoddwraig ac athrawes Nadia Boulanger (1887–1979).

Lili Boulanger
Ganwyd21 Awst 1893 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
Bu farw15 Mawrth 1918 Edit this on Wikidata
Mézy-sur-Seine Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcyfansoddwr Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth glasurol Edit this on Wikidata
Mudiadimpressionism in music Edit this on Wikidata
TadErnest Boulanger Edit this on Wikidata
Gwobr/auPrix de Rome Edit this on Wikidata

Fe'i ganed ym Mharis i rieni oedd yn gerddorion. Daeth ei thalent am gerddoriaeth yn amlwg yn gynnar yn ei hoes. Cyn iddi fod yn bum mlwydd oed, aeth i wersi yn y Conservatoire de Paris gyda'i chwaer Nadia (10 oed). Mynychodd ddosbarthiadau ar theori cerddoriaeth ac organ gyda Louis Vierne. Roedd hi'n canu, ac yn chwarae piano, ffidil, cello a telyn. Roedd ei hathrawon yn cynnwys Marcel Tournier a Alphonse Hasselmans. Ym 1913 enillodd y Prix de Rome am gyfansoddiad; hi oedd y fenyw gyntaf i ennill y wobr enwog hon.

Mae hi wedi dioddef afiechyd drwy gydol ei bywyd, ac fe'i bu farw o dwbercwlosis coluddyn yn 24 oed. Ymddengys bod yr ymwybyddiaeth o'i salwch difrifol wedi cynyddu ei chreadigrwydd. Ysgrifennodd lawer o gyfansoddiadau, ond roedd llawer o'r rhai hynny heb eu gorffen neu wedi eu colli.