Linlithgow a Dwyrain Falkirk (etholaeth seneddol y DU)

Mae Linlithgow a Dwyrain Falkirk yn etholaeth Sirol yn yr Alban ar gyfer Tŷ'r Cyffredin, y DU, sy'n ethol un Aelod Seneddol (AS) drwy'r system etholiadol 'y cyntaf i'r felin'. Yn 2005 yr etholwyd yr aelod cyntaf i gynrychioli'r etholaeth hon. Mae rhan o'r etholaeth o fewn Falkirk a Gorllewin Lothian.

Linlithgow a Dwyrain Falkirk
Etholaeth Sirol
ar gyfer Tŷ'r Cyffredin
Outline map
Ffiniau Linlithgow a Dwyrain Falkirk yn Yr Alban.
Awdurdodau unedol yr AlbanFalkirk
Etholaeth gyfredol
Ffurfiwyd2005
Aelod SeneddolMartyn Day Logo
Nifer yr aelodau1
Crewyd oDwyrain Falkirk
Gorgyffwrdd gyda:
Etholaeth Senedd EwropYr Alban

Cynrychiolir yr etholaeth, ers Etholiad Cyffredinol, Mai 2015 gan Martyn Day, Plaid Genedlaethol yr Alban (yr SNP). Yn yr etholiad hon cipiodd yr SNP 56 o seddi yn yr Alban.[1] Llwyddodd i ddal ei afael ar y sedd yn etholiadau 2017 a 2019.

O fewn yr etholaeth hon mae'r trefi a'r cymunedau canlynol: Armadale, Avonbridge, Bathgate, Blackness, Blackridge, Boghall, Bo'ness, Brightons, Grangemouth, Greenrigg, Linlithgow, Philpstoun, Reddingmuirhead, Rumford, Slamannan, Torphichen, Westfield, Whitburn a Whitecross.

Aelodau Seneddol golygu

Etholiad Aelod Plaid
2005 Michael Connarty Llafur
2015 Martyn Day SNP
2017 Martyn Day SNP
2019 Martyn Day SNP

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan y BBC; adalwyd 8 Mai 2015|