Liza Minnelli

actores a aned yn 1946

Cantores ac actores ffilm, llwyfan a theledu ydy Liza May Minnelli (ganed 12 Mawrth 1946). Ei mam oedd yr actores a'r gantores Judy Garland a'i thad oedd y cyfarwyddwr ffilm Vincente Minnelli.

Liza Minnelli
GanwydLiza May Minnelli Edit this on Wikidata
12 Mawrth 1946 Edit this on Wikidata
Los Angeles Edit this on Wikidata
Man preswylLos Angeles Edit this on Wikidata
Label recordioCapitol Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner UDA UDA
Alma mater
  • Chadwick School
  • High School of Performing Arts
  • Ysgol Uwchradd Fiorello H. LaGuardia
  • Ysgol Uwchradd Scarsdale
  • HB Studio Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor ffilm, canwr, actor llais, actor llwyfan, actor teledu, actor, coreograffydd, dawnsiwr, cyflwynydd teledu, artist recordio Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth boblogaidd, cerddoriaeth bop, draddodiadol, jazz Edit this on Wikidata
Math o laiscontralto Edit this on Wikidata
TadVincente Minnelli Edit this on Wikidata
MamJudy Garland Edit this on Wikidata
PriodPeter Allen, Jack Haley, Jr., David Gest Edit this on Wikidata
Gwobr/auOfficier de la Légion d'honneur, Gwobr Emmy 'Primetime', Gwobr Grammy Legend, Gwobr yr Academi am yr Actores Orau, Gwobr y 'Theatre World', Gwobr Tony am yr Actores Orau mewn Sioe Gerdd, Gwobr Tony am yr Actores Orau mewn Sioe Gerdd, Gwobr Golden Raspberry i'r Actores Wrth Gefn Waethaf, Gwobr BAFTA am yr Actores Orau i Chwarae'r Brif Ran, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Drama League Award, Hasty Pudding Woman of the Year, GLAAD Vanguard Award, Golden Globes Edit this on Wikidata

Wedi iddi astudio yn y "New York High School of Performing Arts" a'r "Stiwdio Herbert Berghof", dechreuodd Minnelli dderbyn rhannau mewn sioeau cerdd fel Best Foot Forward a Flora the Red Menace. Derbyniodd Gwobr Theatre World am "Best Foot Forward" ym 1963 a Gwobr Tony ym 1965 am "Flora the Red Menace". Roedd Minnelli eisoes wedi sefydlu'i hun fel cantores clybiau nos, ac fel actores cymeriad yn y ffilmiau The Sterile Cuckoo a Tell Me That You Love Me, Junie Moon. Serch hynny, y rôl a ddaeth a fwyaf o amlygrwydd iddi oedd fel Sally Bowles yn y fersiwn ffilm o'r sioe gerdd Broadway Cabaret ym 1972. Derbyniodd Wobr yr Academi am yr Actores Orau am ei rhan yn y ffilm hon.

Er i brosiectau megis Lucky Lady, A Matter of Time a New York, New York gael eu beirniadau, ystyriwyd Minnelli yn un o ddiddanwyr mwyaf amryddawn a phoblogaidd ar y teledu, gan ymddamgos ar raglenni fel Liza with a Z ym 1972, ac ar lwyfan mewn cynyrchiadau Broadway fel "The Act" a "The Rink". O ddiwedd y 1970au a dechrau'r 1980au, rhoddwyd sylw mawr yn y wasg i'r phroblemau iechyd, alcoholiaeth a'i chamdriniaeth o gyffuriau. Serch hynny, ail-sefydlwyd ei gyrfa gyda chyfres o deithiau cyngherddol fel "Liza Minnelli: At Carnegie Hall", "Frank, Liza & Sammy: The Ultimate Event" a "Liza Live from Radio City Music Hall".

Ar ôl blynyddoedd o broblemau iechyd difrifol, dychwelodd Minnelli i fyd perfformio yn 2002, gyda chyfres o gyngherddau o'r enw "Liza's Back". Yn 2008/09 perfformiodd y sioe Broadway Liza's at The Palace...! a enillodd Wobr Tony am y Digwyddiad Theatraidd Gorau.[1]

Mae Minnelli wedi ennill cyfanswm o dair Gwobr Tony, gan gynnwys Gwobr Tony Arbennig.[2] Mae hi hefyd wedi ennill Oscar, Gwobr Emmy, dau Golden Globe a Gwobr Arwr Grammy am ei chyfraniadau a dylanwad ym myd recordio, ynghyd â nifer o anrhydeddau a gwobrau eraill.

Cyfeiriadau golygu

   Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.