Pianydd yw Llŷr Williams (ganwyd 1976). Ganwyd ym Mhentrebychan, ger Wrecsam.

Llŷr Williams
Ganwyd1976 Edit this on Wikidata
Pentre Bychan Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethpianydd Edit this on Wikidata

Etifeddodd ddiddordeb mewn opera oddi ar ei dad, gan fynychu perfformiadau yn Llandudno a Manceinion erbyn ei fod yn saith oed. Dechreuodd gael gwersi piano yn saith oed. Erbyn ei fod yn unarddeg roedd wedi llwyddo hyd at radd VIII, pob un gydag anrhydedd.

Cafodd eu addysg gynnar yn Ysgol Hooson, yn Rhosllannerchrugog ac yn Ysgol Morgan Llwyd. Astudiodd gerddoriaeth yng Ngholeg y Frenhines, Rhydychen gan raddio gyda dosbarth cyntaf yn 1998.

Ym Mai 2002 fe'i dewiswyd i gynrychioli Ymddiriedolaeth Artistiaid Cyngerdd Ifainc. Yn yr un flwyddyn enillodd Wobr y Beirniaid (Critics' Prize) yng Gŵyl Rhyngwladol Caeredin.

Mae wedi perfformio bob blwyddyn yng Ngŵyl Rhyngwladol Caeredin ers 2002. Yn yr un flwyddyn fe'i dewiswyd i fod yn gyfeilydd swyddogol i gystadleuaeth BBC Canwr y Byd, ac mae'n dal i wneud hynny. Cymerodd ran am y tro cyntaf yn y Proms yn 2005.

Cyfeiriadau golygu

Dolen allanol golygu