Plaid leol ydy Llais Gwynedd a sefydlwyd fel grŵp i wrthwynebu cyn-gynghorwyr Cyngor Gwynedd, a pholisiau dadleuol Plaid Cymru ar gau ysgolion bychain Gwynedd. Roedd 28 ymgeisydd yn sefyll ar gyfer eu hetholiad cyntaf fel grŵp yn Etholiad Cyngor Sir Gwynedd, 2008.[1] Enillont 12 sedd i gyd, 2 yn ardal Arfon, 7 yn Nwyfor a 3 ym Meirionnydd.

Llais Gwynedd
Arweinydd Owain Williams
Sefydlwyd 2008
Pencadlys dim pencadlys swyddogol
Ideoleg Wleidyddol
Safbwynt Gwleidyddol
Tadogaeth Ryngwladol dim
Tadogaeth Ewropeaidd dim
Grŵp Senedd Ewrop dim
Lliwiau Coch a Gwyrdd
Gwefan http://gwynedd.biz/mysharedaccounts/llais/1/
Gwelwch hefyd Gwleidyddiaeth y DU

Yn dilyn yr etholiad, fe gollodd Plaid Cymru reolaeth dros y sir gan nad oedd ganddynt bellach y mwyafrif oedd ei angen. Mae Llais Gwynedd yn gwrthod cydweithio gyda Plaid Cymru i greu clymblaid. Ar 5 Mai 2008, etholwyd y Cynghorydd Owain Williams yn arweinydd grŵp Llais Gwynedd ar y cyngor.[2]

Llais y Bobl oedd enw gwreiddiol y mudiad gwledig hwn, ond bu rhaid newid yr enw ar gyfer yr etholiad gan fod plaid o'r un enw yn bodoli ym Mlaenau Gwent.[3]

Dolenni allanol golygu

Ffynonellau golygu

  1.  John Stevenson (25 Ebrill 2008). Etholiad: Addysg yn bwnc trafod. BBC Cymru.
  2.  Llais: Dim cydweithio â Plaid. BBC (6 Mai 2008).
  3. (Saesneg) Tom Bodden (26 Ionawr 2008). Silenced: Voice of the People. Daily Post.