Llan-crwys

pentref yn Sir Gaerfyrddin

Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Llan-crwys (hefyd: Llan-y-crwys; Saesneg: Llanycrwys). Saif tua pedair milltir i'r de-ddwyrain o dref Llanbedr Pont Steffan, ar lannau Afon Twrch.

Llanycrwys
Mathcymuned, pentrefan Edit this on Wikidata
Poblogaeth235 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,363.59 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.0833°N 3.9833°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000545 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auAdam Price (Plaid Cymru)
AS/auJonathan Edwards (Annibynnol)
Map

Yn 1934, cyhoeddodd yr ysgolfeistr lleol, Daniel Jenkins, Cerddi Ysgol Llanycrwys, sef casgliad o gerddi a ysgrifennwyd gan feirdd adnabyddus ar gyfer dathliad Dydd Gŵyl Dewi yn Llanycrwys rhwng 1901 a 1920.

Caewyd ysgol gynradd gymunedol Llanycrwys pan agorwyd ysgol ffederal newydd Ysgol Gynradd Carreg Hirfaen ym Medi 2000, wedi cyfuniad ysgolion Coedmor, Ffarmers a Llanycrwys.[1]

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Jonathan Edwards (Annibynnol).[2][3]

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanycrwys (pob oed) (235)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanycrwys) (107)
  
46.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanycrwys) (109)
  
46.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Llanycrwys) (38)
  
37.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Inspection: 20 – 22 Hydref 2003. ESTYN.
  2. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]