Mae Llan Cewydd (Saesneg: Lancaut) yn hen bentref nad yw bellach yn bodoli, yn Swydd Gaerloyw, De-orllewin Lloegr. Mae wedi'i leoli ar lan Afon Gwy, tua dwy filltir i'r gogledd o Gas-gwent; yn y fan hon, yr afon yw'r ffin rhwng Cymru a Lloegr. Does fawr o ddim o'r pentref i'w weld heddiw, nemor ychydig o adfeilion, gan gynnwys hen eglwys Sant Iago.

Llan Cewydd
Mathanheddiad dynol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Gaerloyw
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.6663°N 2.6722°W Edit this on Wikidata
Map

Mae'r pentref oddi fewn i siap 'C' yr afon, sy'n golygu ei fod ar un adeg wedi'i amddiffyn yn gryf gan y ffurfiad daearegol; ceir olion caer o gyfnod Oes yr Haearn oddi fewn i bedol yr afon a godwyd gan llwyth Celtaidd y Silwriaid. Enw'r gaer yn Saesneg, erbyn heddiw, yw Spital Meend.[1][2]

Seisnigiad o "Llan Cewydd" yw "Lancaut" a gaiff hefyd ei ysgrifennu fel "Llancourt".[3] Mae'r 'Cewydd' yma'n cyfeirio at Sant Cewydd o'r 6g. Ychydig iawn a wyddwn am y sant hwn.[4]

Mae Clawdd Offa'n pasio i'r dwyrain o'r pentref ac sy'n defnyddio rhan o'r gaer. Tan 956 arferai glannau dwyreiniol yr afon fod yng Nghymru.[5]

Cyfeiriadau golygu

  1. "St James's Church, Lancaut, Monmouthshire ". 19 Awst 2007.
  2. Walters, Bryan (1992). The Archaeology and History of Ancient Dean and the Wye Valley. Thornhill Press. t. 47. ISBN 0-946328-42-0.CS1 maint: ref=harv (link)
  3. The English Cyclopaedia, 1867
  4. Display board at St James' Church. Cyngor Sir Fynwy.
  5. "C. R. Elrington et al., [[Victoria County History]], A History of the County of Gloucester: Cyfrol 10: Westbury and Whitstone Hundreds, 1972, tt.50-72". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-08-05. Cyrchwyd 2015-11-19.