Llan Sain Siôr

pentref ym Mwrdeistref Sirol Conwy

Pentref yng nghymuned Abergele, bwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Llan Sain Siôr (Saesneg: St. George). Ceir sawl amrywiad ar yr enw Cymraeg, yn cynnwys: Llan Saint Sior, Llansan Sior,[1] Llansainsior, Llansansiôr,[2] neu Sain Siôr yn unig). Yn ôl y cofnodion hanesyddol, Cegydon neu Cegidog oedd enw'r pentref yn y gorffennol.

Llan Sain Siôr
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.267°N 3.538°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH872514 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auDarren Millar (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Jones (Ceidwadwr)
Map

Gorwedd ar bwys yr A55 rhwng Abergele i'r gorllewin a Llanelwy i'r dwyrain, tua dwy filltir o'r môr ar lethr tir.

Enwir y pentref a'r plwyf ar ôl yr eglwys Fictorianaidd leol a gysegrir i'r sant Siôr (un o'r ychydig eglwysi yng Nghymru wedi eu cysegru i nawddsant Lloegr). Ceir chwedl leol sy'n cysylltu'r pentref â'r chwedl adnabyddus amdano'n lladd draig. Eglwys un siambr yw Eglwys Sain Siôr, sydd wedi'i chofrestru fel adeilad Gradd II ers 8 Mai 1997 (rhif Cofrestr Cadw: 18669).[3] Ceir cofebion i deuluoedd lleol sy'n dyddio o ddechrau'r 17g tu mewn. Yn y pentref, yn ogystal ag eglwys y plwyf, ceir tafarn y Kinmel Arms ac ysgol gynradd. Gerllaw ceir ystâd Neuadd Cinmel a chwarel.

I'r gogledd-ddwyrain o'r pentref, rhyngddo a Rhuddlan, ceir Morfa Rhuddlan, safle brwydr enwog rhwng y Cymry a'r Eingl-Sacsoniaid yn yr Oesoedd Canol Cynnar. Ar y bryn ger y chwarel tu ôl i'r pentref ceir olion olaf bryngaer Dinorben, un o'r enghreifftiau gorau yng ngogledd Cymru, sydd bron iawn wedi diflannu erbyn hyn oherwydd y gwaith chwarel yno.


Oriel golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 21 Tachwedd 2021
  2. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  3. Britsh Listed Buildings; adalwyd 19 Medi 2014