Llanarmon Dyffryn Ceiriog

pentref yng ngogledd Powys

Pentref yng nghymuned Ceiriog Uchaf, Bwrdeistref Sirol Wrecsam, yw Llanarmon Dyffryn Ceiriog.[1][2] Saif ar lan Afon Ceiriog, ar ddiwedd ffordd y B4500, 5 milltir (8 km) i'r de-orllewin o Lyn Ceiriog a 10 milltir (16 km) i'r gogledd-ddwyrain o Groesoswallt yn Etholaeth Cynulliad De Clwyd, ac yn Etholaeth Seneddol De Clwyd.

Llanarmon Dyffryn Ceiriog
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirWrecsam Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.8862°N 3.2493°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ159328 Edit this on Wikidata
Cod postLL20 Edit this on Wikidata
Map
Gweler hefyd Ceiriog (gwahaniaethu).

Saif dwy ywen nodedig ychydig fetrau o ddrws Eglwys Sant Garmon, sy'n enghreifftiau prin o bâr o yw; yn 1998 mesurwyd o gwmpas gwaelod y coed ac roedd yr ywen ar y chwith (wrth edrych ar yr eglwys) yn 25 troedfedd a'i phartner gwrywaidd ar y dde dros yn 25 troedfedd a hanner.[3]

Eglwys Sant Garmon
Dwy ywen ger drws yr eglwys: yr un ar y chwith yn fenywaidd a'r llall yn wrywaidd

Daearyddiaeth a gweinyddiaeth golygu

Hanes Dinesig golygu

O ganol yr 16g tan 1974, llywodraethwyd Llanarmon Dyffryn Ceiriog gan sir weinyddol Dinbych. O 1895 tan 1935, roedd Llanarmon Dyffryn Ceiriog yn rhan o ardal wledig Llansilin, a gyfunwyd yn 1935 gydag ardal wledig Y Waun i greu ardal wledig Y Waun. Arhosodd Llanarmon Dyffryn Ceiriog yn rhan o ardal gwledig Y Waun o 1935 tan 1974.

Yn 1974, cafwyd wared ar yr hen Sir Ddinbych fel sir weinyddol, a cafodd Llanarmon Dyffryn Ceiriog ei gynnwys o fewn ardal Glyndŵr yn sir newydd Clwyd. Newidiwyd y trefn eto yn 1996, pan gafwyd wared o Glwyd ac Ardal Glyn Dŵr, daeth Llanarmon Dyffryn Ceiriog yn rhan o fwrdeistref sirol Wrecsam, fel yma mae hi heddiw fyth.

Cynyrchiolaeth gwleidyddol golygu

Gweinyddir Llanarmon Dyffryn Ceiriog o fewn bwrdeistref sirol Wrecsam, awdurdod unedol a grewyd yn 1996. Mae Llanarmon Dyffryn Ceiriog yn etholaeth Dyffryn Ceiriog, ac mae genddi Gynghorwr annibynnol.

Ers 1999, mae Llanarmon Dyffryn Ceiriog wedi cael ei chynrychioli yn Llywodraeth Cynulliad Cymru gan Ken Skates, Aelod Cynulliad De Clwyd y Blaid Lafur.

Ers 2015, cynrychiolwyd Llanarmon Dyffryn Ceiriog yn Senedd y Deyrnas Unedig gan Susan Elan Jones, Aelod Seneddol De Clwyd y Blaid Lafur.

Enwogion golygu

Ganed y bardd nodweddiadol, John Ceiriog Hughes yn fferm Pen-y-Bryn, Llanarmon Dyffryn Ceiriog yn 1832, a treuliodd ei blentyndod yno.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 9 Gorffennaf 2022
  3. Gwefan www.ancient-yew.org; Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 26 Hydref 2014