Llanbadrig

cymuned a leolir ar arfordir gogledd-orllewin y sir Fôn, Cymru

Pentref, chymuned a phlwyf eglwysig ar arfordir gogledd Môn yw Llanbadrig. Yn yr Oesoedd Canol roedd yn rhan o gwmwd Talybolion, cantref Cemais.

Llanbadrig
Mathcymuned, pentref Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlSant Padrig Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1974 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,405.716 ±0.001 ha Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaMechell, Cymuned Amlwch Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.412413°N 4.436658°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000011 Edit this on Wikidata
Cod OSSH3814493389 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auVirginia Crosbie (Ceidwadwyr)
Map

Mae'r gymuned hon yn cynnwys treflan Clygyrog a phorthladd bychan Cemaes (Porth Wygyr), lleoliad tybiedig maenor cantref Cemais yn yr Oesoedd Canol. Ceir nifer o hen chwareli calchfaen yn yr ardal. Yn ôl Cyfrifiad 2011, roedd 1,316 o bobl yn byw yn y gymuned hon a 690 (sef 52.4%) o'r boblogaeth dros dair oed a hŷn Cymuned Llanbadrig yn gallu siarad Cymraeg.[1] Roedd 302 yn ddi-waith, sef 46.7% o'r rhai o fewn yr oedran priodol.

Eglwys Llanbadrig ar ymyl y môr

Hanes golygu

Enwir Llanbadrig ar ôl Sant Padrig, nawddsant Iwerddon, a cheir eglwys o'r enw, prif eglwys y plwyf, ar yr arfordir ger Cemaes. Yn ôl traddodiad cafodd ei sefydlu yn y flwyddyn 440 gan Sant Padrig ei hun. Yn ôl chwedl leol, cafodd Padrig ei hun mewn llongdrylliad ar Ynys Badrig, sy'n ynys fechan yn agos i arfordir y plwyf, bron gyferbyn â safle'r eglwys bresennol.

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanbadrig (pob oed) (1,357)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanbadrig) (690)
  
52.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanbadrig) (743)
  
54.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanbadrig) (302)
  
46.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Pobl o Lanbadrig golygu

Ffilm golygu

Cafodd rhan o'r ffilm Half Light (2006), yn serennu Demi Moore ei ffilmio yn Llanbadrig (ond lleolir y ffilm yn yr Alban).

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Cyfrifiad 2011; gwefan Saesneg "Ystadegau Cenedlaethol y DU". Adalwyd 28 Ebrill 2013.
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.