Llanddulas

pentref

Pentref ar arfordir gogledd-ddwyrain Cymru ym mwrdeistref sirol Conwy yw Llanddulas (sillafiad amgen ond anghywir: Llandulas). Enwir y pentref ar ôl afon Dulas, sy'n llifo trwyddo o'r tharddle ym mryniau Rhos. Yn ôl cyfrifiad 2001, mae gan gymuned Llanddulas a Rhyd-y-foel, boblogaeth o 1,572, gyda 23% yn medru rhywfaint o Gymraeg.

Llanddulas
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.2833°N 3.6333°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH906781 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auDarren Millar (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Jones (Ceidwadwr)
Map
Traeth Llanddulas.
Odynnau yn Llanddulas tuag 1885.

Gorwedd Llanddulas rhwng Bae Colwyn i'r gorllewin ac Abergele i'r dwyrain. Rhed yr A55 heibio i'r pentref, rhyngddo a glan y môr. Mae ffordd arall yn dilyn cwm Dulas i fyny i bentref Betws yn Rhos.

Gellir cyrraedd glan y môr trwy ddilyn lôn trwy dwnel dan Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru i fynd i'r traeth o gerrig mân a mymryn o dywod. Ceir meysydd carafanau yno. Ym mhen gorllewinol y traeth ceir adfeilion sietis yr hen chwarel calchfaen.

Hanes golygu

Mae'r eglwys yn dyddio i'r 19g. Tua milltir i'r de o'r pentref ar ben bryn ceir safle bryngaer Pen-y-Corddin.

Bradychwyd Rhisiart II o Loegr i ddwylo ei elynion yn Llanddulas yn 1399, ar ei ffordd yn ôl o Iwerddon.

Pobl o Landdulas golygu

Ganed y heddychwr a chenedlaetholwr Cymreig Lewis Valentine yno ym 1893.

Cyfeiriadau golygu