Llandysul

tref a chymuned yng Ngheredigion

Tref fechan ar lan Afon Teifi yn ne Ceredigion yw Llandysul. Mae ganddi 2821 o drigolion, a 70% ohonynt yn siarad Cymraeg (Cyfrifiad 2001). Lleolir Gwasg Gomer, un o weisg a chyhoeddwyr mwyaf Cymru, yno. Gorwedd ar yr A486. Mae'r pentref hefyd yn boblogaidd ymysg canŵ-wyr a cherddwyr afon.

Llandysul
Mathcymuned, tref Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,732 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iPlogoneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd6,671.35 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.0411°N 4.3095°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000376 Edit this on Wikidata
Cod OSSN4162340646 Edit this on Wikidata
Cod postSA44 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map
Capel y Graig, Llandysul, c.1885
Am y pentref ym Mhowys, gweler Llandysul, Powys.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]

Hanes y pentref golygu

Adeilad hynaf y pentref ydy'r hen eglwys a adeiladwyd yn y 13g. Fodd bynnag, fe'i hadeiladwyd ar sylfeini hynafol a enwyd ar ôl Sant Tysul a sefydlodd yr eglwys wreiddiol yn y 6g. Roedd Sant Tysul yn fab i Corun a oedd yn fab i Ceredig ap Cunedda, a roddodd ei enw i'r deyrnas, sef enw presennol y sir sef Ceredigion. Roedd gan Ceredig fab arall hefyd, Sant, a oedd yn dad i nawddsant Cymru, Dewi Sant. O ganlyniad, roedd Dewi a Tysul yn gefndryd cyntaf.[3]

Arferwyd chwarae'r gêm y cnapan rhwng pentrefi Llandysul a Llanwenog. Y gôliau oedd drws eglwys Llandysul a drws eglwys Llanwenog chwe milltir i ffwrdd. O ganlyniad i or-yfed a thrais, ataliodd y Ficer Enoc James y gêm yn 1833.[4]

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llandysul (pob oed) (1,527)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llandysul) (1,083)
  
70%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llandysul) (621)
  
40.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llandysul) (161)
  
25.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Diwylliant a chymuned golygu

Sefydlwyd Calon Tysul[8] ym mis Tachwedd 2017. Mae'r safle'n cynnwys pwll nofio 25m x 10m (Pwll Nofio Teifiside ynghynt sefydlwyd 1975 ac yna Canolfan Dŵr Llandysul) a Chanolfan Hamdden Llandysul (sefydlwyd 2003). Mae bwrdd ymddiriedolwyr gwirfoddol yn gyfrifol am lywodraethu'r ganolfan. Mae amrywiaeth eang o weithgareddau hamdden ac addysgol yn digwydd yn y ganolfan, megis nofio, caiacio, partïon pen-blwydd i blant, Cynllun Ailgyfeirio Ymarfer Corff Cenedlaethol, dosbarthiadau ffitrwydd, badminton, tenis bwrdd, dringo a phêl-droed.

 
Plant yn chwarae yn y pwll yng Nghalon Tysul

Pobl o Landysul golygu

Gefeilldref golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. Hanes Llandysul a Phont Tyweli Archifwyd 2010-02-23 yn y Peiriant Wayback. Gwefan LLandysul - Pont-Tyweli. Adalwyd ar 08-10-2010
  4. Bro Llandysul Gwefan Acen. Adalwyd ar 08-10-2010
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Gwefan
  Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.