Llanedi

pentref yn Sir Gaerfyrddin

Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Llanedi.[1][2] Saif ar lan orllewinol Afon Llwchwr a gerllaw'r draffordd M4, i'r gogledd-ddwyrain o dref Llanelli. Dyddia'r eglwys bresennol, a gysegrwyd i'e Sanres Edi, o 1860, ond gall sylfaen y tŵr ddyddio o'r Canol Oesoedd. Bu'r Ficer Prichard yn dal y rheithoriaeth yn y 17g.

Llanedi
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth5,664 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd2,625.95 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.7483°N 4.0511°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000517 Edit this on Wikidata
Cod OSSN586069 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auLee Waters (Llafur)
AS/auNia Griffith (Llafur)
Map

Heblaw am bentref Llanedi ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys Fforest, Tŷ-croes a'r Hendy. Yn ôl cyfrifiad 2001 roedd gan y gymuned boblogaeth o 5,195 gyda 68.74% ohonynt yn medru rhywfaint o Gymraeg.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Lee Waters (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Nia Griffith (Llafur).[4]

Enwogion golygu

Mae ei enw yn ymddangos ar y gofeb ryfel yn y pentref.[6]

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[7][8][9][10]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanedi (pob oed) (5,664)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanedi) (2,476)
  
45.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanedi) (4683)
  
82.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llanedi) (833)
  
34.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. "Enwau Lleoedd Safonol Cymru", Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 27 Ionawr 2023
  2. British Place Names; adalwyd 27 Ionawr 2023
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. Anne Marsh Penton. "'Little Tommy': 16th June 1895 - 18th March 1916". Siegfried's Journal (Siegfried Sassoon Fellowship): 9-17. ISSN 1758-5856. (Saesneg)
  6. "Llanedi War Memorial". West Wales War Memorial Project. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-06-18. Cyrchwyd 17 September 2019. (Saesneg)
  7. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  9. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  10. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]

Dolenni allanol golygu